Torf yn ‘bŵian’ wrth i gelf Banksy gael ei thynnu i lawr
Fe wnaeth torf fŵian wrth weithwyr dynnu i lawr darn o gelf Banksy o gath yn ymestyn yn Llundain ychydig oriau yn unig ar ôl iddo ymddangos.
Fe gafodd y gwaith ei dynnu i lawr gan ddynion a ddywedodd eu bod nhw wedi eu cyflogi i wneud hynny gan gwmni contractio am resymau diogelwch.
Roedd y gwaith celf yn Cricklewood yn darlunio silwét tywyll cath gyda chynffon ar i fyny yn ymestyn ei chorff.
Y gwaith celf yw’r chweched i gael ei ddadorchuddio yn Llundain gan yr artist o Fryste'r wythnos hon.
Mae’r casgliad yn cynnwys gafr, eliffantod, mwncïod, blaidd a phelicanod.
Dywedodd contractwr o’r enw ‘Marc’ wrth asiantaeth newyddion PA eu bod yn mynd i dynnu’r bwrdd i lawr a gosod un newydd yn ei le.
“Fe fyddwn ni’n storio’r darn hwnnw (y gwaith celf) yn ein hiard i weld a oes unrhyw un yn ei gasglu ond os na fydd yn mynd mewn sgip," meddai.
“Rydw i wedi cael gwybod y dylwn i ei gadw’n ofalus rhag ofn y bydd ei eisiau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor lleol Brent wrth PA: “Mae’r hysbysfwrdd yn eiddo preifat a ddim yn eiddo i’r cyngor.”
Llun gan Jordan Reynolds / PA.