Newyddion S4C

‘Golygu gymaint’: Mam a merch yn cael eu hurddo i’r Orsedd

09/08/2024

‘Golygu gymaint’: Mam a merch yn cael eu hurddo i’r Orsedd

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru wedi dweud bod y profiad o gael ei hurddo i’r Orsedd gyda’i mam yn “golygu gymaint”.

Ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener, cafodd Elinor Snowsill a’i mam Nerys Howell, sy’n arbenigwr bwyd blaenllaw, eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd.

Dywedodd Elinor: “Odd e’n rili emosiynol, o’n i ddim yn disgwyl iddo fod mor emosiynol a hyn.

“I wneud e wrth ochor mam, mae hi wedi bod wrth fy ochr drwy gydol fy ngyrfa rygbi, ma’i ‘di bod i bron pob gem - heblaw am un gêm ble natho ni guro Lloegr am yr unig dro. 

“Ond mae hi di bod i bob gem a ma fe just yn golygu gymaint i allu gwneud e gyda mam.”

Mae Nerys yn cytuno bod y profiad yn “arbennig”.

“Mae’n arbennig i fi achos gesi fagwraeth yn Nhonypandy, esi i ysgol Gymraeg leol - Ynyswen a Rhydfelen - a bod nôl ym Mhontypridd, ma’r holl wythnos 'di bod reit emosiynol a dweud y gwir.”

Cydraddoldeb

Fe wnaeth Elinor dderbyn y Wisg Las am ei chyfraniad i’r byd chwaraeon. 

Yn ystod ei gyrfa, mae Elinor wedi ennill 76 o gapiau dros Gymru ac mae hi wedi gweithio’n galed i hyrwyddo cydraddoldeb menywod yn y byd rygbi.

Er ei bod wedi ymddeol o’r gamp y llynedd, mae hi’n parhau i frwydro dros gydraddoldeb menywod yn ei swydd newydd fel Arweinydd Datblygu Chwaraewyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

“Mae dal lot o waith i'w wneud. Pan nes i ddechrau, doedd neb yn gwybod am ferched rygbi yng Nghymru, mae’r chwaraeon wedi tyfu gymaint ac mae wedi bod yn grêt i'w weld. 

“Ond mae dal lot o waith ar ôl i'w wneud a dyna nawr yw fy swydd i - i drio wneud e ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Ychwanegodd Elinor fod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod cyfleoedd i fenywod yn y byd rygbi.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y cyfleoedd yna iddyn nhw allu llwyddo o fewn y gamp,” meddai.

Bwyd a diod

Fe wnaeth Nerys dderbyn y Wisg Werdd am ei chyfraniad i’r celfyddydau drwy ei gwaith yn hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.

Dywedodd ei bod yn falch o chwarae rhan yn “rhoi Cymru ar y map”.

“Fel mae Elinor yn dweud, mae lot o waith i wneud yn y maes bwyd a diod hefyd,” meddai.

“'Da ni 'di dod yn bell mewn 20 mlynedd, ond mae lot o ffordd i fynd. Fi’n falch o gael rhan fach o roi Cymru ar y map gyda bwyd a diod.”

Bwriad Nerys yw parhau i hyrwyddo cynnyrch o Gymru.

“'Dw i fod yn gweithio llai ond dw i wrth fy modd yn gweithio yn y maes bwyd a diod a dw i’n mynd i gario 'mlaen gymaint ag y galla i.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.