Newyddion S4C

Ydy’r Eisteddfod yn ddigon hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?

Ydy’r Eisteddfod yn ddigon hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?

Mae defnyddiwr cadair olwyn wedi canmol hygyrchedd Eisteddfod Genedlaethol 2024 ond wedi galw am fwy o stiwardiaid i helpu, mwy o arwyddion ar y maes, a llai o lwybrau wedi’u gwneud o gerrig mân y tro nesaf. 

Gyda’r maes ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 yn edrych yn wahanol eleni. 

Ond ydy’r ŵyl yn ddigon hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?

Dyma’r tro cyntaf i Emily Nicole Roberts, sy’n 26 oed ac yn defnyddio cadair olwyn, fynd i’r Eisteddfod ac felly roedd rhaid paratoi o flaen llaw. 

O ddydd i ddydd mae Emily, sy’n byw gyda chyflwr cerebal palsy, yn gweithio mewn siop briodasol, ond mae ganddi hefyd gyfres YouTube ei hun, ‘How Emily.’  Bydd ei chyfres yn cael ei addasu i sioe ar BBC Radio Wales ar ôl peilot llwyddiannus y llynedd. 

Yn y gyfres mae Emily yn dangos sut mae hi’n cwblhau tasgau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel defnyddiwr cadair olwyn. 

Yr wythnos hon fe wnaeth hi rannu ei phrofiad yn yr Eisteddfod gyda thîm Hansh Dim Sbin.

Dechrau da wrth gyrraedd 

Cyn cyrraedd y maes dywedodd Emily bod gwefan yr Eisteddfod yn “llawn gywbodaeth am hygyrchedd, mwy nag ydw i wedi gweld erioed".

Parciodd Emily a’i theulu yn y maes parcio bathodyn glas sydd tua wyth munud i ffwrdd o Barc Ynysangharad er mwyn osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ôl Emily mae y gwasanaethau yn gallu bod yn annibynadwy weithiau, yn enwedig i ddefnyddwyr cadair olwyn.. 

Wrth gyrraedd y maes roedd Emily yn hapus i weld bod y mwyafrif o’r llwybrau trwy’r maes yn fflat, ond roedd hi’ “yn ofnus o’r glaswellt” rhag ofn iddi fynd yn sownd. 

Maes D

Mae Emily yn ddysgwr Cymraeg felly roedd hi wedi edrych ymlaen i ymweld â Maes D, ond y broblem fwyaf wynebodd hi ar y maes oedd cyrraedd eu pabell. 

Mae’r llwybr sy’n arwain lawr at Maes D yn un serth ac eithaf anwastad. 

Heb opsiwn hygyrch arall fe wnaeth Emily geisio defnyddio’r llwybr i fynd lawr i’r babell ond fe aeth hi’n sownd. Gan wybod na fyddai’n gallu mynd yn ôl i fyny’r allt at brif balmant y maes, roedd yn rhaid iddi dderbyn cymorth rhywun oedd yn pasio heibio i’w thynnu. 

Stondinau’r maes

“Mae’r rampiau [mewn i’r stondynau] yn serth felly mae angen cael breichiau cryf, sydd ddim gen i'" meddai.

Wrth ymweld â’r stondinau roedd Emily yn gweld hi'n anodd mynd i mewn ac allan ohonynt. 

Oherwydd y gofod rhwng y llwybr a’r glaswellt ac yna ramp serth, roedd angen cymorth arni i fynd i mewn i’r stondinau. I ddod allan a chyrraedd nôl ar y palmant, roedd angen help arni i gael ei chadair olwyn nôl fyny hefyd. 

Mewn ardaloedd eraill o’r maes roedd rhai mannau serth oedd yn golygu bod yn rhaid iddi gael cymorth unwaith eto. 

Image
Emily Nicole Roberts

Llwyfan y Maes: ‘Teimlo fel rhan o grŵp’

“Dwi byth ‘di gweld meinciau fel hyn.” 

Yn y cae sy’n wynebu llwyfan y maes mae yna feinciau sy’n gadael lle i ddefnyddwyr cadair olwyn. Dywedodd Emily fod meinciau fel hyn yn gwneud iddi deimlo fel rhan o grŵp, yn lle eistedd wrth ben y bwrdd. “Dwi’n caru nhw,” meddai.

Wrth mynd dros y glaswellt gyda’r gadair olwyn dywedodd Emily: “Mae’r glaswellt yn iawn nawr, ond pan mae’n bwrw glaw mae hynny’n problem mawr.”

Ar y cyfan roedd Emily yn fodlon bod llawr y maes yn wastad a bod modd iddi gael mynediad i safle cadair olwyn yn y Pafiliwn, ac i dai bach hygyrch ger y Lido. 

Ei bwriad yw defnyddio cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r sialensau a’r ystradebau mae pobl anabl yn eu hwynebu. 

Image
Emily Nicole Roberts

'Sicrhau profiad anhygoel'

Fe ddaw sylwadau Emily wrth i Swyddog Hygyrchedd yr Eisteddfod Genedlaethol ddweud mai sicrhau “profiad anhygoel i bawb” oedd ei fwriad wrth helpu i gynllunio’r Maes eleni. 

Dywedodd Ollie Griffith-Salter yr oedd  yn bwysig ystyried pa lwybrau y byddai “mwyaf addas” i bobl anabl allu cyrraedd a mwynhau’r Maes ym Mharc Ynysangharad eleni. 

“Fel person anabl, chi’n gweld pethau’n wahanol i bobl sydd ddim efo anabledd.

“Felly mae fe’n gweithio yn dda i’r Eisteddfod i gael rhywun fel fi i gweithio ‘da nhw a ‘dyn ni’n gweithio fel un tîm fowr i gael profiad anhygoel i bawb sy’n dod i’r Maes," meddai. 

Er mwyn sicrhau fod y Maes yn hygyrch i bobl anabl, mae’r Hwb Hygyrchedd ar agor “yr un amser mae’r drysau” i’r Eisteddfod Genedlaethol yn agor. 

Mae swyddogion hefyd yn parhau ar y Maes tan hwyr y nos, gan gynnwys wedi i seremonïau’r Pafiliwn ddod i ben yn ogystal â pherfformiadau ar Lwyfan y Maes.

"Mae ‘na hefyd cerbydau all helpu pobl anabl, ac mae'r rheiny’n ar gael i’w defnyddio yn ystod y diwrnod cyfan," meddai Ollie. 

“Ni ‘di cael llawer o adborth dda o ran y tracs yn mynd rownd y Maes, o ran y concrit a’r ffaith bod ‘buggies’ ni yn mynd nôl a 'mlaen. Ni yma i helpu a gweithio mor galed â ni gallu i cael pawb ar y Maes i joio.”

Image
Ollie

'Briffio'

Dywedodd Llefarydd ar ran yr Eisteddfod: “Rydyn ni’n briffio ein holl stiwardiaid yn ystod eu hyfforddiant, ac mae Ollie, ein swyddog hygyrchedd yn rhan o’r briffio cyn i’r Eisteddfod gychwyn. 

“Mae gennym ni arwyddion yn arwain pobl i’n hwb hygyrchedd a’n llecyn llonydd o amgylch yn Maes, ac mae croeso mawr i bawb yn yr hwb.

“Rydyn ni eisoes wedi gosod matiau er mwyn hwyluso pethau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac fe fyddwn ni’n pacio ardal y lle bwyd eto dros nos yn barod ar gyfer y bore.” 

I weld sut aeth diwrnod Emily ar y maes gallwch gwylio fan hyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.