Jade Jones yn colli yn y rownd gyntaf yn y Gemau Olympaidd
Mae ymgais Jade Jones i greu hanes yn y Gemau Olympaidd ar ben unwaith eto ar ôl iddi golli yn rownd gyntaf cystadleuaeth taekwondo -57kg ym Mharis.
Roedd Jones, sy’n 31 oed o Fodelwyddan, yn gobeithio ennill ei thrydedd medal aur yn y Gemau Olympaidd.
Fe gollodd Jones yn erbyn Miljana Reljiki o Macedonia fore dydd Iau.
Cafodd ei churo yn yr un rownd yn Tokyo dair blynedd yn ôl.
Roedd sgôr y rowndiau rhwng y ddwy fore dydd Iau yn gyfartal ond fe aeth Reljkik â hi oherwydd nifer fwy o ergydion cofrestredig.
Fe fydd gan Jones gyfle i barhau i frwydro am efydd yn ddiweddarach os ydy Reljkik yn cyrraedd y rowndiau terfynol yn y Grand Palais.
Cafodd y Gymraes ganiatâd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ar ôl penderfyniad na fydd yn wynebu unrhyw gosb am dorri rheolau cyffuriau.
Fe gafodd Jones a enillodd fedal aur yn Llundain 2012 a Rio 2016, ei hatal dros dro gan Asiantaeth Gwrth Gyffuriau’r DU (Ukad) ar ôl iddi fethu â darparu sampl wrin i swyddogion a daeth i ymweld â hi mewn gwesty ym Manceinion ar 1 Rhagfyr 2023.
Ond dywedodd Ukad eu bod wedi cael cofnodion meddygol cyfrinachol a oedd yn dangos nad oedd “bai nac esgeulustod am iddi wrthod neu fethu â chyflwyno sampl”.
Dywedodd Jade Jones yn hwyrach: "Rydw i wedi fy llorio. Mae wedi bod yn siwrnai anhygoel i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd am y pedwerydd tro.
"Roeddwn yn credu yn fy nghalon y gallwn ei wneud ond chwaraeon yw chwaraeon ac mae'n dibynnu ar y diwrnod ac nid oedd gennyf yr hyn sydd ei angen heddiw. Ond rwy'n falch ohonof fy hun am geisio ac am roi popeth i geisio ei wneud."
Llun: Wochit