Newyddion S4C

'Prosiect pwysig': Cynllun ymchwil i'r gofod pell yn Sir Benfro

08/08/2024
International Space Station

Fe fydd barics y fyddin yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio i gynnal ymchwil i mewn i’r gofod pell, sef y gofod tu hwnt i’r lleuad.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi y bydd Barics Cawdor yn Sir Benfro yn gartref i gynllun DARC (Deep Space Advanced Radar Capability).

Fe fydd Darc yn canfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn y gofod pell trwy ddefnyddio Radar ac mewn cydweithrediad â chynghreiriaid y DU.

Fe fydd y rhaglen yn defnyddio rhwydwaith o radar ar y ddaear yn Awstralia a’r Unol Daleithiau yn ogystal â’r DU i ddarparu monitro o’r gofod yn fyd-eang.

Fe fydd hyn yn cynyddu gallu’r gwledydd i olrhain gwrthrychau hyd at tua 36,000km i ffwrdd o’r ddaear.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd hyn o fudd i luoedd tir, awyr a morol y gwledydd hyn, yn ogystal â diwydiannau adeiladu domestig a’r  gofod.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey, fod y gwaith ailddatblygu arfaethedig yn Sir Benfro yn mynd i “sicrhau swyddi yn y DU a galluoedd amddiffyn ar gyfer y dyfodol”.

Dywedodd: “Mae’r gofod yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd – o’n ffonau symudol i wasanaethau bancio. Fe'i defnyddir hefyd gan luoedd amddiffyn y DU i gyflawni tasgau hanfodol megis cefnogi gweithrediadau milwrol, llywio ein lluoedd a chasglu gwybodaeth.

“Bydd y rhaglen radar newydd hon nid yn unig yn gwella ein hymwybyddiaeth o’r gofod pell, ond hefyd yn helpu i amddiffyn ein hasedau gofod ochr yn ochr â’n partneriaid agosaf.”

"Pwysig i Gymru"

Mae Barics Cawdor wedi bod yn orsaf hedfan yr Awyrlu Brenhinol ac yn ganolfan i'r Llynges Frenhinol.

Mae’r safle ar hyn o bryd yn gartref i 14 Catrawd Signalau, gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2016 yn dweud na fyddai’r barics yn cau cyn 2028.

Byddai ailddatblygu'r safle ar gyfer Darc yn cadw'r safle ar agor, gyda phresenoldeb parhaol o hyd at 100 o bersonél i weithredu a chynnal y cyfarpar radar.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, ei fod yn “brosiect pwysig i Gymru”.

Dywedodd: “Trwy wella ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y gofod, gallwn barhau i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd yr Weinyddiaeth Amddiffyn fod  Llywodraeth y DU yn mynd i gynnal digwyddiadau gwybodaeth cyhoeddus lleol cyn y cyfnod ymgynghori statudol sy'n ofynnol gan Gyngor Sir Penfro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.