Newyddion S4C

Eluned Morgan yn cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru

06/08/2024

Eluned Morgan yn cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru

Mae arweinydd newydd y Blaid Lafur, Eluned Morgan, wedi cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth.

Fe wnaeth y Senedd gynnal pleidlais i ddewis Prif Weinidog newydd ddydd Mawrth.

Y Farwnes Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru a'r fenyw gyntaf i gael ei hethol i fod yn Brif Weinidog Cymru.

"Dyw hyn ddim yn ymwneud â thorri nenfydau gwydr yn unig," meddai. "Mae'n ymwneud â'u chwalu a defnyddio y mosaig i greu darlun o bosibiliadau newydd.

"Dwi'n cario gyda fo ddoethineb cyfunol menywod di-ri sydd wedi brwydro, ymdrechu a dyfalbarhau - llawer heb y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu."

Dywedodd y byddai Huw Irranca-Davies yn Ddirprwy Brif Weinidog gan ddweud: “Allwn i ddim gofyn am bartner gwleidyddol mwy galluog."

"Rydyn ni'n dod a llu o brofiad a dealltwriaeth i'n harweinyddiaeth a chred dwfn fod pobl yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan fyddant yn gweithio gyad'i gilydd," meddai.

Roedd Eluned Morgan yn cydnabod bod Llafur Cymru wedi wynebu anhawster yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

Dywedodd wrth y Senedd: “Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac rydym wedi bod trwy dipyn o helbul. 

"Ond rydyn ni’n gwybod ein bod ni ar ein gorau pan rydyn ni’n gweithio mewn undod fel plaid ac fel cenedl.”

Dywedodd y Prif Weinidog newydd y bydd “ffocws ein Llywodraeth yn gadarn ar Gymru a’i phobl, gan wrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau ac eisiau ei gyflawni ym mhob cornel o’r genedl wych hon”.

Ymateb

Yn dilyn enwebu Eluned Morgan yn Brif Weinidog Cymru, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies: "Chi yw’r trydydd prif weinidog eleni ac yn y pen draw mae hynny’n amlwg wedi cael effaith anffodus ar allu y Llywodraeth i gyflwyno newid yma yng Nghymru."

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Nid trosglwyddiad trefnus o un Prif Weinidog i’r llall yw hwn. Ers misoedd, mae’r llywodraeth Lafur sydd wedi bod mewn grym ers cyhyd wedi bod yn ddiymadferth wrth orfod delio â sgandal a ffraeo mewnol, yn hytrach na gallu canolbwyntio ar wasanaethu pobl Cymru. Mae Cymru yn haeddu gwell na hynny."

'Cyfle'

Daw urddo Eluned Morgan yn Brif Weinidog ar ôl i Vaughan Gething ysgrifennu at y Brenin nos Lun i ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru.

Eluned Morgan oedd yr unig ymgeisydd i roi ei henw ymlaen i’w olynu fel arweinydd Llafur Cymru.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd ei bod “wirioneddol yn anrhydedd” i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn Brif Weinidog.

“Rydw i eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i gyflawni eu potensial,” meddai.

“Roedd Huw Irranca-Davies a minnau’n sefyll fel partneriaeth falch, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cefnogaeth aruthrol Aelodau Seneddol Llafur Cymru a chefnogaeth o bob rhan o Gymru a’r mudiad Llafur ehangach.”

Gwyliwch raglen S4C am Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Mewn Pandemig ar S4C/Clic.

Llun: Senedd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.