Ansicrwydd mam pa mor hir bydd ei babi fyw
Mae mam o Gaerdydd yn ansicr am ba mor hir bydd ei bachgen bach yn byw oherwydd cyflwr genetig prin.
Fe wnaeth Niko, mab Amy Lewis stopio symud pan oedd yn saith wythnos oed oherwydd cyflwr prin Atroffi Cyhyr yr Asgwrn Cefn - sef Spinal Muscular Atrophy (SMA).
"Yn sydyn iawn doedd e ddim yn hapus trwy'r amser a doedd e ddim yn symud," meddai Amy.
"Doedd ei freichiau ddim yn symud fel oedden nhw pan gafodd ei eni.
"Doedd ei ben ddim yn symud o gwbl, roedd e braidd yn symud dim."
SMA Math 1 sydd gan Niko. Dyw e ddim yn gallu cerdded, ac mae'n dioddef o broblemau anadlu. Dydy o ddim yn gallu bwyta bwydydd caled chwaith.
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd mae pob un plentyn yn y DU sydd heb dderbyn triniaeth ar gyfer SMA wedi marw cyn eu bod nhw'n ddwy oed.
Bellach yn 1 oed, mae Niko wedi derbyn triniaeth therapi genetig llwyddiannus, ond mae'n parhau i wynebu problemau iechyd.
Fe gafodd firws syncytaidd anadlol (RSV) ym mis Mawrth 2024 ac roedd angen cymorth i fwyta bwyd. Cafodd ddiagnosis scoliosis ym mis Mai 2024 sef pan mae'r asgwrn cefn yn crymu i'r ochr.
Mae Amy bellach yn sicrhau bod Niko yn gwisgo mwgwd i'w helpu i anadlu bob nos a pheiriant i'w helpu gyda'i beswch deirgwaith y dydd.
Mae hi nawr yn gobeithio cael mwy o offer i’w mab fel brês wedi ei wneud yn arbennig ar gyfer ei gefn sydd werth £3,000. Mae hefyd yn gobeithio codi £10,000 iddo gael ffisiotherapi preifat ac offer ychwanegol.
Yn ôl Amy, sydd yn fam sengl i Niko a Blake sy'n bedair oed, dyw hi ddim yn cysgu llawer oherwydd bod hi'n poeni am ei mab.
"Mae'n dy lethu di. Mae rhai dyddiau yn well nag eraill, yn enwedig achos dwi ar ben fy hun o ddydd i ddydd.
"Bron bob nos dwi'n eistedd yno ar ddihun gydag o yn poeni am ei lefelau ocsigen ac yn gobeithio ei fod yn iawn."
Wrth edrych i'r dyfodol, mae Amy yn ansicr ynglŷn â'r hyn sydd o'i blaen.
“Dwi'n meddwl mai saith oed yw'r plentyn hynaf yn y DU i gael SMA a chael yr un driniaeth â Niko, felly mae’n anodd dweud a dyw'r meddygon ddim yn siŵr oherwydd ei fod yn gyflwr mor newydd.
“Ond mae yna siawns uchel iawn, iawn na fydd yn cerdded. Fe fydd mewn cadair olwyn neu efallai y bydd yn gallu cymryd camau ond mae hynny yn bell iawn yn y dyfodol...
“Mae'n anodd iawn peidio gwybod.”