Teyrngedau i ddyn ‘caredig’ fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf
Mae teulu dyn 50 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Rhondda Cynon Taf ddydd Iau wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jason Maber o Donysguborau mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A473 yn Efail Isaf am 09:55 ddydd Iau.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Roedd Jason yn cael ei garu gymaint gan y teulu i gyd. Roedd yn fab, brawd, ewythr, nai, ŵyr, tad a phartner cariadus.
“Rydyn ni i gyd mewn sioc o hyd ac nid ydym hyd yn oed wedi dechrau dod i delerau â'i golled.
“Rydyn ni eisoes yn gwybod y bydd yn gadael gwagle enfawr mewn cymaint o fywydau na ellir byth eu llenwi.
“Roedd Jason wrth ei fodd â'i gerddoriaeth yn enwedig Punk a bandiau amgen ac roedd yn ystyried ei hun yn amgylcheddwr.
“Roedd yn frwd dros ailgylchu, achub y blaned a hawliau anifeiliaid.
“Roedd yn berson mor garedig a oedd yn gofalu’n llawn amser am ei bartner ond hefyd yn rhoi cymaint i’r gymuned leol.
“Rydym mor ddiolchgar i’r holl wasanaethau brys a geisiodd ei helpu yn y fan a’r lle ac unrhyw un arall a stopiodd i gynorthwyo.
“Mae’n dod â chysur inni wybod nad oedd ar ei ben ei hun”.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n dal i ymchwilio i'r gwrthdrawiad.
Llun: Teulu/Heddlu De Cymru