Dyn ifanc yn honni fod Huw Edwards wedi ‘cymryd mantais’ ohono
Mae dyn ifanc a gafodd ei dalu gan Huw Edwards i rannu lluniau o’i hun gydag ef wedi honni fod y cyn-ddarlledwr wedi ‘cymryd mantais’ ohono.
Ddydd Mercher, fe wnaeth Edwards bledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant.
Roedd wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.
‘Cymryd mantais’
Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.
Daeth hynny ar ôl adroddiadau ym mhapur newydd The Sun y llynedd fod un o gyflwynwyr y BBC ar y pryd, a oedd yn anhysbys, wedi talu person ifanc £35,000 am luniau o natur rywiol, a hynny wedi dechrau pan oedd y person ifanc yn 17 oed ar y pryd.
Mewn cyfweliad gyda'r Mirror ddydd Sadwrn, mae’r dyn a oedd yng nghanol y sgandal wedi dweud ei fod yn teimlo “cywilydd” ar ôl ceisio amddiffyn Edwards.
“Dywedais wrth [Edwards] am fy mywyd cartref cythryblus, ac roedd yn teimlo’n ddrwg iawn i mi. Dywedais wrtho sut roeddwn i’n cael trafferth gydag iselder, ac roeddwn i mewn lle tywyll iawn.
“Wrth edrych yn ôl, roeddwn i’n ceisio amddiffyn Huw i ryw raddau.
“Rwy’n meddwl i mi gael fy nghamarwain i feddwl nad oedd yn foi drwg.
“Roeddwn i mor ddall i'r hyn yr oedd yn ei wneud i mi. Fel rydw i'n teimlo fy mod i wedi cael fy nghymryd mantais ohonof yn llwyr.”
'Eisiau fi allan o'r ffordd'
Cyn i’r datganiad cael ei roi yn datgelu mai Edwards oedd y darlledwr dan sylw oedd wedi talu am luniau o’r dyn, fe wnaeth Edwards roi arian i’r dyn er mwyn iddo deithio dramor.
Roedd y perthynas hefyd wedi cael effaith ar berthynas y dyn gyda’i rieni, yn ogystal.
“Ychydig oriau cyn i’r datganiad ollwng am ei fod yn yr ysbyty, roedden ni’n siarad amdana i’n gadael y wlad.
“Dywedodd ei fod yn poeni am fy iechyd meddwl, a’n bod ni’n dau yn amlwg yng nghanol y storm. Wrth edrych yn ôl, roedd yn amlwg ei fod eisiau fi allan o'r ffordd.”
Dywedodd cyfreithiwr ar ran y dyn wrth wefan y Mirror: “Er mwyn osgoi amheuaeth, does dim byd amhriodol nac anghyfreithlon wedi digwydd rhwng ein cleient a phersonoliaeth y BBC ac mae’r honiadau a adroddwyd ym mhapur newydd y Sun yn ffuglen.”
Ychwanegodd y dyn: “Pan ddaeth y stori allan roeddwn yn teimlo rheidrwydd i'w warchod.
"Ac o ran fy mam, er ein bod wedi ymddieithrio, oni bai amdani hi, efallai y byddai'n dal i ymddwyn yr un ffordd ac y byddai ganddo ei bŵer o hyd. Byddai ganddo enw da o hyd, pan nad yw’n ei haeddu.”