Cynnal cyfarfod wedi pryder am ddyfodol canolfan Coed y Brenin
Mae cyfarfod wedi cael ei gynnal ddydd Gwener yn dilyn pryder am ddyfodol canolfan ymwelwyr safle beicio mynydd Coed y Brenin ger Dolgellau.
Mae'r ganolfan ymysg tair yn y gogledd a'r canolbarth sy'n cael eu hadolygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Yn ôl Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Claire Pillman, mae arian cyhoeddus yn “eithriadol o dynn.”
Y bwriad yw cau canolfan Coed y Brenin ynghyd a chanolfannau Ynys Las a Nant yr Arian ger Aberystwyth.
Dywedodd Claire Pillman fod y corff wedi e-bostio aelodau’r staff yr wythnos hon er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw y bydd cyllideb staff yn cael ei leihau erbyn mis Ebrill nesaf, a hynny fel rhan o gynlluniau i arbed arian.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cadarnhau fod 265 o swyddi yn y fantol.
Mae ymgyrchwyr lleol yn dweud y byddai colli'r ganolfan ymwelwyr yn ergyd enfawr, gan boeni y byddai'r ganolfan yn gallu cael ei gwerthu i ddwylo preifat.
Ond mae un grŵp cymunedol, Grŵp Caru Coed y Brenin, wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio cynnal y canolfan eu hunain pe bai i gynlluniau i gau’r canolfan gael ei gymeradwyo.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai ceisio arbed arian yw nod yr adolygiad, sef £13m o'u cyllideb.
Mae o gwmpas 100,000 o bobl yn ymweld â Choed y Brenin yn flynyddol, gydag o gwmpas 20 o weithwyr arlwyo a mân-werthu yn gweithio yno.
Bydd penderfyniad terfynol ynghylch dyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn cael ei gwneud ym mis Medi.