Cynllun ail dai'r llywodraeth: 'Sut fedra'i fyw yn yng nghymuned i?'

Cynllun ail dai'r llywodraeth: 'Sut fedra'i fyw yn yng nghymuned i?'
Mae dyn o Drawsfynydd wedi disgrifio'r heriau o brynu tŷ ei hun i fyw yn ei gymuned.
Dywedodd Elfed Wyn ap Alwyn wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'r cymunedau 'ma 'di bod yn diodde'n ofnadwy. Sut yn y byd fedra'i fyw yn yng nghymuned i?"
Daw ei sylwadau ar y diwrnod y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot newydd i fynd i'r afael ag ail gartrefi.
Fe amlinellodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, “dull tair elfen uchelgeisiol” yn y Senedd ddydd Mawrth i roi sylw i’r mater.
Dywedodd Elfed: "'Dan ni 'di gael Llywodraeth ers 1999 ac ŵan maen nhw'n deffro. Dwi'n trial peidio cael cryndod yn'n llais i achos dwi isho gwylltio gymaint.
"Dwi'n byw yn Nhrawsfynydd ar hyn o bryd yn rhentu hen dy fy nain. Felly dwi'n ddigon ffodus i gael bris teg ar hwnnw. Ond dwi'n ysu i fyw yn y gymuned i gael tŷ fy hun", ychwanegodd.
'Brys a difrifoldeb'
Bydd Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg hefyd yn cael ei gyhoeddi er mwyn ‘diogelu buddiannau penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith’ ar gyfer ymgynghoriad yn yr Hydref.
Dywed y llywodraeth y bydd y tair elfen yn canolbwyntio ar gefnogaeth, fframwaith a system rheoleiddio a chyfraniad tecach.
Mae disgwyl i gynllun peilot gael ei gynnal mewn un ardal yng Nghymru, gyda’r lleoliad i gael ei gadarnhau dros yr haf.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd hefyd a chyfrifoldeb dros dai, Julie James: “Mae'r cynnydd parhaus ym mhrisiau tai yn golygu na all pobl, yn enwedig cenedlaethau iau, fforddio byw yn y cymunedau lle cawsant eu magu mwyach.
“Gall crynodiad uchel o ail gartrefi neu dai gwyliau gael effaith andwyol iawn ar gymunedau bach, ac mewn rhai ardaloedd gallai beryglu'r Gymraeg sy'n cael ei siarad ar lefel gymunedol.
Ychwanegodd y Gweinidog: "Mae brys a difrifoldeb y sefyllfa hon yn galw am ymyrraeth bellach, a chamau gweithredu uchelgeisiol yn sydyn, er mwyn chwistrellu tegwch yn ôl i'r system dai.
"Gan gymryd argymhellion o adroddiad Dr Brooks, bydd ein dull tair elfen newydd yn sbarduno haf o weithredu er mwyn penderfynu sut byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn nawr ac yn y dyfodol.
'Camgymeriad difrifol'
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am atgyfodi cynllun Hawl-i-Brynu yng Nghymru.
Daeth y cynllun i ben yng Nghymru ar 26 Ionawr 2019 wedi pleidlais yn y Senedd ar ei ddyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Cysgodol am Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders: “Nid oes gwadu bod prisiau cynyddol tai yn golygu fod pobl, yn enwedig cenedlaethau iau, yn methu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu. Ond, mae’r Gweinidog wedi gwneud camgymeriad difrifol drwy gysylltu hyn ag ail gartefi.
“Mae’r adroddiad gan Dr Brooks yn codi pwyntiau pwysig, gan gynnwys nad oes llawer o dystiolaeth mai ail gartrefi yw prif achos prisiau tai uchel yn hytrach na phrynwyr yn symud i fyw yno’n barhaol".
'Cicio'r broblem i lawr y lon'
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r mesurau, gan eu galw’n “gynlluniau annweledig ar gyfer mwy o ymgynghori”.
Mae’r blaid yn galw am gyflwyno cyfres o fesurau gan gynnwys treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi.
Dywedodd Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS: “Mae’r ‘dull uchelgeisiol’ bondigrybwyll hwn o fynd i’r afael ag argyfwng tai ail gartref yn ymarfer o gicio’r broblem i lawr y lon heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau.
“Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i’r afael ag argyfwng tai sy’n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus".