Breuddwyd Ewropeaidd CPD Caernarfon ar fin dod i ben?
![Sgorio](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/Sgorio.jpg)
Ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, mae’n ymddangos fel bod y freuddwyd ar fin dod i ben i glwb pêl-droed Caernarfon.
Roedd hi’n fuddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn Crusaders o Belfast yn y rownd ragbrofol gyntaf, ond roedd clwb o safon Legia Warszawa wastad am fod yn wrthwynebwyr caled i’r Cofis.
Legia Warsaw yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Gwlad Pwyl, ac mae eu torf yn adnabyddus fel rhai angerddol a thanllyd.
6-0 oedd y sgôr wedi'r cymal cyntaf wythnos yn ôl.
Mae’r clwb o brif ddinas Gwlad Pwyl wedi chwarae dros 250 o gemau’n Ewrop gan gyrraedd rownd y grwpiau ar saith achlysur ers 2011, a churo timau fel Aston Villa, Leicester City, Sporting Lisbon a Celtic yn ddiweddar.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae nos Iau gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu unai Brøndby IF (Denmarc) neur KF Llapi 1932 (Cosofo) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Fe ddechreuodd Caernarfon yn gadarn nos Iau ddiwethaf yn stadiwm gwag y Stadion Wojska Polskiego, gyda’r dorf wedi eu gwahardd o’r gêm oherwydd trafferthion diweddar.
Ac yn yr 20 munud agoriadol fe allai’r Cofis fod wedi mynd ar y blaen gyda Daniel Gosset, Zack Clarke a Darren Thomas i gyd yn methu’r targed gydag ymdrechion o safloedd da.
Daeth y gôl agoriadol i Legia o gic gornel wedi 22 munud gyda’r Sbaenwr, Marc Gual yn gwasgu peniad heibio’r golwr ar y postyn pellaf, ac er i Stephen McMullan gael llaw at y bêl roedd y llimanwr yn grediniol fod y bêl wedi croesi’r linell.
Parhaodd y Cofis y frwydro ond funud cyn yr egwyl, fe fethodd McMullan a delio gyda chroesiad syml, ac ar ôl gollwng y bêl fe ddisgynnodd hi’n boenus dros y linell, a Chaernarfon methu credu sut eu bod yn colli 2-0 ar yr egwyl.
Gyda cynffonnau’r Caneris i lawr fe fanteisiodd Legia Warsaw a sgoriodd Marc Gual ddwy gôl gynnar yn yr ail hanner i gwblhau ei hatric.
Ar ôl methu cic o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner, fe lwyddodd blaenwr Slofenia, Blaž Kramer i wneud yn iawn am ei gam dri munud yn ddiwddarach gan droi’n hyfryd sgorio’r bumed i Legia.
Ond yr olaf oedd yr orau i Legia Warsaw, yn eiliadau ola’r gêm wrth i Claude Gonçalves grymanu ergyd odidog o du allan i cwrt i gornel ucha’r rhwyd a’i gwneud hi’n 6-0 ym mhrif ddinas Gwlad Pwyl.
Roedd y rhwystredigaeth yn amlwg yn sylwadau y rheolwr Richard Davies wedi’r gêm, oedd yn cyfaddau nad oedd y canlyniad yn sioc, ond fod ei chwaraewyr wedi haeddu mwy yn dilyn eu perfformiad, ac mae camgymeriadau gwirion oedd wedi profi’n gostus yn y pen draw.