Newyddion S4C

'Sa'i 'di clywed hi mor hapus a oedd hi yn y carchar'

Newyddion S4C 06/07/2021

'Sa'i 'di clywed hi mor hapus a oedd hi yn y carchar'

Mae merch wedi disgrifio profiad ei mam o ddiffyg cefnogaeth ar ôl iddi adael y carchar.

Mae cyn-droseddwyr, arbenigwyr ac elusennau wedi dweud bod angen gwelliannau i wasanaethau adsefydlu yng Nghymru ar gyfer troseddwyr tymor byr.

Dywedodd Ellie: “Mae'di cael effaith enfawr arno fi. Doedd dim plentyndod 'da fi.  O'n i'n really embarrassed am gael mam, wel am ddim cael mam.

“Blwyddyn ddiwetha' yn 2020 gath hi arestio rhywbeth fel 40 times.  Troseddau bychain, troseddau very minimal.  Ond odd hynna'n y realiti.

“Sa'i 'di clywed hi mor hapus a oedd hi yn y carchar a wedyn wrth gwrs pryd daeth hi allan o'r carchar yn mis Mawrth odd y support, wnaeth o completely chwmpo through.

“Dwi'n ofnus, heb help o gwasanaethau cymdeithasol bydd hi yn marw”, ychwanegodd Ellie.

Erbyn heddiw mae ei Mam yn byw mewn tŷ cyngor ar ei phen ei hun ac yn ôl Ellie mae hynny yn golygu mae’r carchar yw’r unig le fydd yn ei chadw’n ddiogel.

Ond mae help ar gael yn ôl un elusen sy'n helpu troseddwyr - y broblem yw bod angen chwilio am y cymorth yma.

Dywedodd Marc Lewis o’r elusen Tu fewn Tu Fas Cefnogaeth Cymru: “Mae 'na help mas na i bawb sy'n gadael y carchar ond mae'r neges yma ddim gwastad yn cael ei drosglwyddo, yn enwedig i bobl sydd yn byw bywyd chaotic, maen nhw jyst ddim yn cael y wybodaeth sydd angen arnyn nhw yn y sefyllfaoedd yna.

“Mae fe'n rhywbeth dyle ni fel sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gweithio'n galetach at”.

 Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau adsefydlu i helpu troseddwyr benywaidd i stopio troseddu. Maen nhw hefyd yn bwriadu agor canolfan breswyl i ferched yng Nghymru fydd yn canolbwyntio ar leihau aildroseddu - cynllun sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.