Apelio am dystion wedi damwain ddifrifol ar Ynys Môn
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am dystion wedi i feiciwr modur gael ei anafu'n ddifrifol mewn damwain ar Ynys Môn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gyrion Biwmares ychydig cyn 1.30 pnawn Sadwrn. Bu'r brif ffordd i mewn i'r dref ar gau am rhai oriau.
Roedd car Peugeot 207 yn teithio o gyfeiriad Porthaethwy, gyda motobeic Honda du a gwyn yn dod o'r cyfeiriad arall pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn agos i orsaf betrol Texaco.
Cafodd y beiciwr 22 oed ei gludo i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrfol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Eleri Jones o Heddlu'r Gogledd: "Rwy'n annog unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â ni cyn gynted a phosib.
"Hefyd, rydw i'n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad neu ychydig cyn hynny, a sydd â lluniau o ffôn symudol neu dashcam i gysylltu â ni."