Dynes wedi marw ar ôl ymosodiad wrth fynd â'i chi am dro

29/07/2024
Anita Rose

Mae dynes a gafodd ei hanafu'n ddifrifol ar ôl dioddef ymosodiad wrth fynd â'i chi am dro wedi marw yn yr ysbyty yn ôl yr heddlu.

Cafodd Anita Rose, 57, ei darganfod yn anymwybodol yn Brantham, Suffolk, ddydd Mercher. 

Fe fuodd hi farw yn Ysbyty Addenbrooke yng Nghaergrawnt fore Sul. 

Dywedodd heddlu fod dyn o ardal Ipswich, sydd eisoes wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, bellach wedi cael ei ail-arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. 

Cafodd Ms Rose ei darganfod ar y llwybr, rhwng y rheilffordd ac ardal gwaith carthffosiaeth, gan aelod o'r cyhoedd am tua 06:25 fore Mercher. 

Y gred yw ei bod hi wedi gadael ei chartref am tua 05:00 er mwyn mynd â'i chi am dro yn y pentref. 

Dywedodd yr heddlu fod ei ffôn symudol, oedd ar goll yn flaenorol, bellach wedi cael ei ddarganfod, ond bod ei siaced binc yn parhau ar goll. 

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Roedd ein mam yn adnabyddus yn y gymuned ac yn hoffus iawn.

"Mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle yn gwybod rhywbeth, ac rydym ni'n erfyn arnyn nhw i siarad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.