Cyhoeddi manylion cynllun gwerth £20m i geisio adfywio canol Wrecsam
Mae cynllun gwerth £20m i adfywio canol dinas Wrecsam wedi cael ei amlinellu yn dilyn honiadau bod trosedd a chysylltiadau trafnidiaeth gwael yn achosi i drigolion wario arian mewn trefi a dinasoedd eraill.
Ym mis Medi 2023, cyhoeddwyd bod Wrecsam yn un o 55 o drefi a dinasoedd a ddewiswyd i gymryd rhan yng nghynllun Trefi Hirdymor Llywodraeth y DU.
Mae'n golygu y gallai'r ddinas dderbyn hyd at £20m dros y 10 mlynedd nesaf i helpu i gyflawni gwelliannau.
Mae adroddiad bellach wedi’i gyhoeddi gan aelodau o Fwrdd Dinas Wrecsam, sy’n cynnwys arweinwyr cymunedol a busnes, yn manylu ar sut maen nhw’n bwriadu hybu economi’r ardal.
Bydd y cynllun 10 mlynedd yn gweithredu fel achos busnes i sicrhau buddsoddiad gan y llywodraeth, gyda’r gyfran gychwynnol i’w gwario dros y tair blynedd nesaf.
Mae’n dangos sut mae amrywiaeth o faterion yn achosi i bobl sy’n byw yn Wrecsam wario degau o filiynau o bunnoedd mewn trefi a chanolfannau siopa cyfagos yn lle eu dinas eu hunain.
'Sawl her'
Dywed y ddogfen: “Mae canol y ddinas yn wynebu sawl her. Mae rhai yn ymwneud â'r dirywiad cyffredinol a brofir gan y rhan fwyaf o ganol trefi a dinasoedd ledled y DU, ac mae eraill yn benodol i Wrecsam.
“Er bod £101m yn cael ei wario’n flynyddol gan drigolion yng nghanol dinas Wrecsam, gyda £6m ychwanegol yn cael ei wario gan weithwyr a £6m gan dwristiaid (cyfanswm o £113m) mae yna ollyngiad sylweddol o wariant o’r boblogaeth leol.
“Mae’r rhai sy’n byw yn Wrecsam yn gwario mwy (£137m) yn Cheshire Oaks, Brychdyn a Chroesoswallt, sydd i gyd y tu allan i’r sir.
"Maen nhw hefyd yn gwario £72m ar-lein.”
Mae’r adroddiad yn ychwanegu: “Mae cyrchfannau siopa a hamdden y tu allan i’r dref hefyd yn cael effaith, mae £41m yn cael ei wario ym Mhlas Coch, sy’n atal ymwelwyr cyn iddynt gyrraedd canol y ddinas.
“Mae parciau manwerthu niferus y tu allan i dref Wrecsam yn cael eu ffafrio oherwydd eu hwylustod ac yn aml dyma ddewis llawer o deuluoedd sy’n brin o amser.”
Mae'r adroddiad yn amlygu cyfraddau troseddu uchel fel un o'r prif broblemau sydd angen mynd i'r afael â nhw.
Dywed hefyd bod materion trafnidiaeth a pharcio yn Wrecsam wedi gwneud i drigolion wario mewn mannau eraill.