Newyddion S4C

Newid hinsawdd yn destun pryder i ffermwyr yn y Sioe Frenhinol

26/07/2024

Newid hinsawdd yn destun pryder i ffermwyr yn y Sioe Frenhinol

Llanelwedd yn 2022, gyda Chymru'n profi'r diwrnod poethaf ar gofnod yn ystod y Sioe.

A record Cymru am y flwyddyn gynhesaf yn cael ei thorri llynedd. Eleni, mae'n fwynach, ond adroddiad diweddara'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio ein bod ni'n profi llawer mwy o ddiwrnodau poeth iawn. A rhai ar eu hennill.

"Yn y gwres mawr, wneith y rhein dal i dyfu. 'Sdim eisiau mynd yn llai na 28 neu maen nhw'n dechrau cau lawr. Rhywle ynghanol y 20au ac mae'r gwinwydd yn ffynnu ac yn iach.

"Ond mae 'na gynnydd wedi bod yn y nifer o ddiwrnodau gwlyb iawn 'fyd."

Roedd mis Mawrth, Gorffennaf, Hydref a Rhagfyr llynedd ymhlith y deg uchaf o fisoedd gwlypaf ar gofnod yn y DU.

"Sa i 'di gweld shwt flwyddyn erioed. Mae fel bod 'sdim tymhorau nawr."

"Mae ŵyn yn tueddu i fod yn ysgafnach o ran pwysau. Mae hynny'n uniongyrchol o'r ffaith bod nhw ddim 'di cael tymor gorau pan oedd y tywydd yn eithafol ar gychwyn y flwyddyn."

"Heriol iawn, mae'n job cadw bob dim yn fyw. Rŵan mae pethau'n altro ond dyw hi ddim yn dywydd i wneud gwair. Os ydy o'n cario ymlaen fel hyn mae'n mynd i fod yn anoddach i ffarmio."

Ai'r opsiwn yw gwneud newidiadau a phlannu coed fel mae'r Llywodraeth yn awgrymu?

"I ryw certain point, chi ddim yn plannu coed ar eich tir gorau."

Ond mae rhai'n ceisio arbrofi er mwyn ymateb i'r her.

"O'n i'n rhoi cymysgedd o borfa gwahanol i mewn felly mwy o multi-species a bach o herbs a clover. Jyst cael y gymysgedd. Os oes blwyddyn pan mae'n mynd yn sych mae rhai planhigion yn ymdopi'n well 'na gilydd.

"Mewn blwyddyn wlyb, bydd hi fel arall. Mae cael y cymysgedd yn hynod bwysig."

Er bod rhai eisoes yn addasu felly mae 'na rybudd clir bod angen gweithredu ynghynt.

"Mae hyn yn argyfwng ac mae hynny'n glir. Mae'r gwyddoniaeth wedi bod yna ers degawdau. Ni'n gweld yr effeithiau hynny buon ni'n clywed amdanyn nhw dros y degawdau sydd newydd fod.

"Be sy'n glir yw bod angen gweithredu. "Mae angen cymryd camau nawr yn gyflymach."

Mae Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050. Tu hwnt i Faes y Sioe, mae newid hinsawdd eisoes wedi golygu digwyddiadau tywydd eithafol. Ond rhybudd na fydd pethau'n gwella, os nad oes newid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.