Newyddion S4C

Carcharu dyn am 24 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant

24/07/2024
Carcharu dyn am droseddau rhyw

Mae dyn “peryglus” oedd wedi cyflawni cyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi’i garcharu am 24 mlynedd. 

Fe blediodd Christopher Murray, 63 oed, yn euog i 32 achos yn ei erbyn, gan gynnwys ymosod ar blentyn a threisio. 

Roedd y troseddau yn gysylltiedig â phedwar o blant yn ystod cyfnod pan oedd Mr Murray yn byw yn Rhisga yng Nghaerffili a Chil-y-coed yn Sir Fynwy yn yr 1990au. 

Cafodd ddedfryd estynedig o 24 mlynedd, gan gynnwys 18 mlynedd yn y carchar ac yna cyfnod trwydded estynedig o chwe blynedd, wedi iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf. 

Mae gorchymyn yn ei erbyn a fydd yn rheoli ei fynediad at blant am weddill ei oes, ac fe fydd ar gofrestr troseddwyr rhyw am oes yn ogystal. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Abigail Short o Heddlu Gwent bod “dewrder” y dioddefwyr yn yr achos yma wedi bod yn “wirioneddol ysbrydoledig.” 

“Mae Murray yn ddyn peryglus ac mae ei ymddygiad drygionus, rheibus a di-baid wedi achosi dioddefaint aruthrol," meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn dangos i ddioddefwyr cam-drin rhywiol eraill y bydd rhywun yn eu gwrando arnyn nhw, yn eu coelio, ac yn eu parchu.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.