Aelod Seneddol newydd o Gymru yn diolch i’w fam a fu farw ddyddiau wedi iddo gael ei ethol
Mae Aelod Seneddol newydd o Gymru wedi defnyddio ei araith gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin i ddiolch i’w fam a fu farw ddyddiau wedi iddo gael ei ethol.
Dywedodd Steve Witherden, AS newydd Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, ei fod yn falch bod ei fam wedi ei weld yn cael ei ethol cyn marw.
“Rydw i’n gwybod ei fod wedi ei gwneud hi’n hapus iawn,” meddai.
Dywedodd ei fod wedi ei alw allan o siambr Tŷ'r Cyffredin ar Orffennaf 9 - y diwrnod cyntaf i'r Senedd gyfarfod ar ôl yr Etholiad Cyffredinol - a chael gwybod bod ganddi oriau i fyw.
Dychwelodd i Gymru a llwyddodd i dreulio amser gyda hi cyn iddi farw.
Fe wnaeth Mr Witherden, sydd wedi gweithio fel athro ers 2005, ei araith gyntaf fel AS dros y Blaid Lafur yn ystod dadl ar bwnc addysg ddydd Mercher.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd: “Hoffwn ddiolch i’r Tŷ a holl staff yr holl bleidiau gwleidyddol am y caredigrwydd a’r gefnogaeth a gefais ar ôl marwolaeth ddiweddar fy mam bythefnos yn ôl heddiw.
“Yn yr wythnosau olaf hynny o’r ymgyrch fer, dwi’n meddwl efallai nad oedd fy mam wedi dweud wrtha i pa mor sâl oedd hi.
“Rwy’n credu, hyd yn oed mewn cyfnod o salwch angheuol, efallai ei bod wedi defnyddio ei chwip tair llinell ei hun i berswadio fy chwiorydd a’m tad i beidio â dweud wrtha i pa mor sâl oedd hi.
“Roeddwn i’n meddwl fod gyda ni wythnosau, ond yn ystod araith y Llefarydd ar y 9fed, cefais fy ngalw allan o’r siambr a chael gwybod bod gennym ni oriau.”
Diolchodd i staff Ysbyty Maelor Wrecsam am eu “gofal rhagorol” a diolchodd iddynt am sicrhau y gallai weld ei fam cyn iddi farw.
“Doedd hi ddim yn dioddef ac fe gefais i’r cyfle i ddweud wrthi fy mod i’n ei charu ac i ddal ei llaw wrth iddi farw.”