Newyddion S4C

Eluned Morgan yn 'ymddiheuro' wrth gychwyn yn arweinydd newydd Llafur Cymru

24/07/2024

Eluned Morgan yn 'ymddiheuro' wrth gychwyn yn arweinydd newydd Llafur Cymru

Mae Eluned Morgan wedi "ymddiheuro" ar ran ei phlaid wrth gychwyn ei swydd yn arweinydd newydd Llafur Cymru.

Cafodd ei chadarnhau yn y swydd ddydd Mercher ar ôl i neb arall gynnig eu hunain fel ymgeisydd amdani.

Hi yn debygol iawn fydd prif weinidog nesaf Cymru, cyn gynted ag y bydd y Senedd yn pleidleisio i gadarnhau hynny.

Dywedodd wrth siarad â'r wasg ei fod yn "bwysig i ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru".

“Dydyn ni ddim wedi gwneud job dda o bethau yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai.

"Ond mae cyfle nawr i droi tudalen newydd".

Bydd Eluned Morgan yn cymryd lle Vaughan Gething, a gyhoeddodd ei ymddiswyddiad yr wythnos diwethaf ar ôl pedwar mis yn unig yn y swydd.

Fe wnaeth yr enwebiadau ar gyfer y swydd gau am 12:00 ddydd Mercher a’r Farwnes Morgan, 57 oedd yr unig ymgeisydd.

Cadarnhaodd y Blaid Lafur mai hi yw arweinydd newydd Llafur Cymru brynhawn dydd Mercher.

Mewn datganiad, dywedodd y Farwnes Morgan ei bod hi’n “wirioneddol yn anrhydedd” i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn Brif Weinidog.

Meddai: “Rydw i eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i gyflawni eu potensial.

“Roedd Huw Irranca-Davies a minnau’n sefyll yn fel partneriaeth balch, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cefnogaeth aruthrol Aelodau Seneddol Llafur Cymru a chefnogaeth o bob rhan o Gymru a’r mudiad Llafur ehangach."

Bydd angen pleidlais yn y Senedd i gadarnhau mai hi yw Prif Weinidog newydd Cymru.

Mae Senedd Cymru ar wyliau tan fis Medi ar hyn o bryd, felly byddai angen ei galw yn ôl os yw Eluned Morgan am gymryd yr awenau ynghynt.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu gofyn am alw'r Senedd yn ôl er mwyn “rhoi mwy o sefydlogrwydd i Gymru”.

Gall y Llywydd Elin Jones benderfynu gwneud hynny ar ôl ymgynghori â’r Prif Weinidog presennol, Vaughan Gething.

Roedd Llafur Cymru yn wreiddiol wedi gosod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd ar Lafur Cymru a fyddai yn dod i ben ar 14 Medi, gyda'r Prif Weiniodg newydd yn ei le erbyn 18 Medi.

Ond daeth i'r amlwg dros y penwythnos bod gornest yn annhebygol pan benderfynodd y ceffyl blaen ar y pryd, Jeremy Miles, beidio â sefyll ac enwebu Eluned Morgan.

Ymateb

Wrth ymateb dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Rwy’n llongyfarch Eluned Morgan ar ei phenodiad fel arweinydd Llafur yng Nghymru.

"Mae’r ffaith mai hi ydi’r trydydd arweinydd mewn tri mis yn siarad cyfrolau am yr anhrefn wrth galon y blaid sy’n llywodraethu.

"Mae Cymru angen i’w Phrif Weinidog lwyddo, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ddewisiadau fod yn wahanol a chanlyniadau fod yn well."

Ychwanegodd: "Dylai Eluned Morgan alw etholiad ond wnaiff hi ddim, felly tra bod Llafur yn parhau i ddadlau ymysg ei gilydd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig dewis amgen y gall pobl ym mhob cwr o’n gwlad uno y tu ôl iddo.”

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, hefyd wedi llongyfarch Eluned Morgan.

Dywedodd: “Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Eluned Morgan ar ddod yn arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru, ac os yw’n cael ei chefnogi gan y Senedd, yn brif weinidog benywaidd cyntaf Cymru erioed.

“Mae Eluned Morgan yn gyfriofol am restrau aros gwaethaf GIG Cymru ar gofnod, felly rhaid gofyn y cwestiwn, ai dyma’r gorau y gall Llafur ei wneud mewn gwirionedd?

“Os yw ei diffyg gallu wrth lywyddu y GIG yng Nghymru yn arwydd o'r hyn sydd i ddod ar draws economi a system addysg Cymru yna mae Cymru yn mynd i fod yn llawer gwaeth ei byd yn y dyfodol.

“Ni all etholiad Senedd 2026 ddod yn ddigon buan i roi’r newid sydd ei angen yn ddirfawr ar Gymru i ddatgloi’r gobaith a’r cyfle a fydd yn adeiladu Cymru newydd a chryfach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.