Newyddion S4C

Achub ci oedd yn sownd o dan ddaear am saith awr

23/07/2024
Ymgyrch i achub ci defaid yn y Rhondda

Mae ci defaid wedi cael ei achub ar ôl saith awr yn sownd o dan ddaear.

Fe syrthiodd Bryn dros 22 metr i lawr twll cudd ar Foel Darren yng Nghwmdâr, Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Tîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru eu galw i gynorthwyo eu cydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i'w achub.

Image
Ymgyrch i achub ci defaid yn Y Rhondda

Roedd yr ymgyrch i achub Bryn wedi ei chynnal ddydd Sul ac yn cynnwys y defnydd o raffau a harneisiau.

Ar ôl saith awr, fe lwyddodd y timau achub i ddod ag ef yn ôl i'r wyneb yn ddiogel.

Image
Ymgyrch i achub ci defaid yn Y Rhondda

Dywedodd Grant Pearce, sef perchennog Bryn, ei fod yn teimlo "cymaint o ryddhad".

"Mae Bryn yn saff, mae o allan [o'r twll] ac mae o'n iawn," meddai.

"Ni allwch goelio cymaint o ryddhad dw i'n ei deimlo."

Lluniau: Grant Pearce a Thîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.