Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd yn herio pencampwyr Hwngari yng Nghyngrair y Pencampwyr

Sgorio 23/07/2024
Y Seintiau Newydd 24/25

Mae’r Seintiau Newydd yn Budapest yn barod i herio pencampwyr Hwngari, Ferencvaros, yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth (19.00).

Bydd pencampwyr y Cymru Premier JD yn anelu i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol y gystadleuaeth am yr eildro yn eu hanes, ac am y tro cyntaf ers 2010.

Roedd gêm gyfartal 1-1 ym mhrif ddinas Montenegro nos Fawrth diwethaf yn ddigon i’r Seintiau Newydd selio eu lle yn yr ail rownd yn dilyn eu buddugoliaeth gartref o 3-0 yn y cymal cyntaf yn erbyn FK Dečić.

Nawr, bydd tîm Craig Harrison yn herio’r cewri o Hwngari dros ddau gymal. Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i chwarae yn erbyn UE Santa Coloma o Andorra neu FC Midtjylland o Ddenmarc yn y rownd nesaf.

Pe bai nhw’n colli yn erbyn Ferencváros, byddent yn syrthio i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa. Hyd yn oed pe bai nhw’n colli honno, yna byddai rownd arall i’w chwarae yng ngêm ail gyfle Cyngres Europa.

Felly mae’r Seintiau’n sicr o chwarae o leiaf chwe gêm arall yn Ewrop eleni. Cyrraedd grwpiau un o’r prif gystadlaethau yw’r nod yn dal i fod i garfan Croesoswallt.

Ar ôl serennu’r tymor diwethaf gan ennill gwobr Esgid Aur y Cymru Premier JD, mae prif sgoriwr y llynedd, Brad Young wedi dechrau’r tymor ar dân. Fe gafodd dair gôl i’r Seintiau yn erbyn FK Dečić yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Dyma’r tro cyntaf i’r clwb gamu ymlaen i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ers 2019.

Ferencváros o Budapest yw clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Hwngari gyda 35 pencampwriaeth i’w henw, gan ennill chwech o rheiny yn olynol ers 2018.

Mae’r clwb yn llawn chwaraewyr rhyngwladol ac mae’r Hwngariaid yn ffefrynnau clir ar ôl cyrraedd rownd 16 olaf Cynghrair Europa y tymor diwethaf.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chynnal yn Groupama Aréna, sef y stadiwm ble gollodd Cymru 1-0 yn erbyn Hwngari ym Mehefin 2019 yng ngemau rhagbrofol Euro 2020.

Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C Clic a thudalennau YouTube a Facebook Sgorio am 18.45 nos Fawrth.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.