Newyddion S4C

Cyhoeddi amserlen ar gyfer arweinydd newydd Llafur Cymru

21/07/2024
Vaughan Gething

Mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd a Phrif Weinidog Cymru.

Fe fydd cyfnod enwebiadau yn cychwyn am 19:00 ddydd Sadwrn ac yn cau am 12:00 ddydd Mercher 24 Gorffennaf.

Yna fe fydd cyfle i’r rhai sydd wedi eu henwebu drafod eu hymgyrch rhwng 20 Awst a 6 Medi.

Fe fydd Llafur Cymru yna’n cynnal pleidlais rhwng 22 Awst a 13 Medi gyda’r cyhoeddiad am arweinydd newydd Llafur Cymru yn dod ar ddydd Sadwrn 14 Medi. 

Fe fydd etholiad ar gyfer Prif Weinidog newydd Cymru yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 18 Medi.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i gyngor Llafur Cymru gwrdd ddydd Sadwrn er mwyn trafod y ffordd ymlaen ar ôl i Vaughan Gething gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo.

Fe wnaeth Pwyllgor Gwaith Cymreig Llafur ddechrau ar y broses o osod amserlen ar gyfer etholiad i ddewis yr arweinydd newydd i'r blaid.

Dywedodd Vaughan Gething yn ystod yr wythnos y bydd yn parhau yn swydd arweinydd Llafur Cymru a’r Prif Weinidog am y tro.

Gyda gwyliau’r haf ar fin dechrau roedd disgwyl i arweinydd newydd fod yn ei le erbyn tua diwedd mis Medi, gyda’r Senedd yn dychwelyd ar gyfer tymor newydd ar 16 Medi.

Dros yr wythnosau nesaf mae disgwyl i aelodau’r Senedd a grwpiau Llafur o fewn etholaethau Cymru enwebu arweinwyr posib.

Os oes cystadleuaeth, mae disgwyl y bydd cyfle i aelodau Llafur ac aelodau o undebau Llafur sy’n gysylltiedig â’r blaid gael cyfle i bleidleisio dros gyfnod o tua mis.

"Yn y misoedd nesaf, bydd aelodau Llafur Cymru yn dewis arweinydd newydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru," meddai Pwyllgor Gwaith Cymreig Llafur.

"Ar Ddydd Sadwrn 20fed Gorffennaf bydd Pwyllgor Gweithredol Cymru yn cyfarfod i gytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer yr etholiad hwn. 

"Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gydag amserlen yr etholiad.

"Ar 24 Gorffennaf bydd ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon."

‘Cydnabod’

Roedd Vaughan Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni oedd â'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Cafodd Mr Gething hefyd ei feirniadu am ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi honiadau bod gwybodaeth wedi ei ryddhau i'r wasg, a hynny heb ddangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad.

Fe wnaeth aelodau o'i gabinet ei hun ymddiswyddo ddydd Mawrth gan alw arno i "fynd yn syth".

Dywedodd Mick Antoniw, Jeremy Miles, Julie James a Lesley Griffiths eu bod nhw'n camu i lawr o'r cabinet.

Mewn datganiad fore Mawrth, dywedodd Mr Gething: “Bore ‘ma, dwi wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau’r broses o gamu lawr fel arweinydd Llafur Cymru, ac o ganlyniad, fel Prif Weinidog. 

“Wedi i mi gael fy ethol fel arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth, roeddwn i wedi gobeithio dros yr haf, y byddai yna gyfnod o adlewrychu, ail-adeiladu ac adnewyddiad yn gallu digwydd. 

“Dwi’n cydnabod rwan nad ydy hyn yn bosib.

“Mae hi wedi bod yn fraint fwyaf fy mywyd i wneud y swydd yma, a hyd yn oed os oedd hynny ddim ond am ychydig fisoedd.

“Yn fy 11 mlynedd fel Gweinidog, dwi erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol. Dwi erioed wedi cam-ddefnyddio neu gymryd mantais o fy nghyfrifoldebau gweinidogol.

“Mae fy hygrededd yn bwysig i mi. Nid wyf wedi cyfaddawdu hyn. 

“Byddaf rwan yn gwneud amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid. 

“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi fy nghefnogi, fy nhîm a fy nheulu dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi golygu cymaint i ni gyd.

“I’r rhai yng Nghymru sydd yn edrych fel fi, ac mae llawer o’r rhain yn poeni ar hyn o bryd, dwi’n gwybod y gall ein gwlad ni wneud yn well. Dwi’n gwybod na fyddai hyn yn gallu digwydd hebddom ni.

“Bydd yna, ac mae’n rhaid cael, llywodraeth sy’n edrych fel y wlad y mae hi’n llywodraethu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.