Newyddion S4C

Coleg Glynllifon yn treialu tractor sy'n gyrru ei hun

Tractor robot

Ar drothwy'r Sioe Frenhinol eleni mae coleg amaethyddol yng Ngwynedd wedi bod yn treialu tractor sy’n gallu ei yrru ei hun.

Rhoddwyd yr AgBot, tractor gwerth £380,000 sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i yrru ei hun, ar brawf i dorri gwair ar gyfer silwair ar gae Tyn Rhos ar fferm Coleg Glynllifon.

Dywedodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai, mai’r gobaith yw y bydd y treialon “gwych” yn dangos sut y gall technolegau newydd fel yr AgBot fod o fudd i amaethyddiaeth ar laswelltir Cymru. 

“Rydw i'n edrych ymlaen at weld beth fydd casgliadau'r rhaglen ymchwil unigryw hon a gwybod sut roedd y cerbyd awtonomaidd yn cymharu â'r tractor traddodiadol oedd yn cael ei yrru,” meddai.

“Bydd yn ddiddorol gweld sut maen nhw'n cymharu o ran cyflymder, cywirdeb ac effeithlonrwydd.”

Mae’r ymchwil yn cael ei wneud ar y cyd ag AMRC Cymru, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a dan reolaeth Prifysgol Sheffield.

Image
AgBot a tractor Fend
AgBot a Fendt 516

‘Awyddus’

Y tractor traddodiadol sy'n cael ei ddefnyddio yn y treialon yw'r Fendt 516, sy'n defnyddio'r un injan disel â'r AgBot. 

Emyr Evans a'i Gwmni, cyflenwr peiriannau amaethyddol wedi’i leoli yn Ninbych a Gaerwen, sydd wedi darparu'r tractor Fendt ar gyfer y treialon.

Dywedodd Gwynedd Evans, cyfarwyddwr Emyr Evans a’i Gwmni, fod y cwmni'n gyffrous i fod yn rhan o dreialu'r dechnoleg ffermio ddiweddaraf.

“Daeth y coleg atom ni am fod y robot a'r tractor Fendt yn defnyddio'r un injan, felly'n naturiol roedd defnyddio un o'n tractorau ni yn dda ar gyfer cymharu," meddai.

“Mae’n rhywbeth cyffrous, newydd a chwbl wahanol, ac roedden ni'n awyddus iawn i fod yn rhan o'r prosiect. 

“Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd canlyniad y treialon. Dw i'n gobeithio mai'r tractor fydd yn perfformio orau! Ond mae'n rhaid i ni groesawu technoleg newydd. 

“Mae'r tractor sydd gennym ni'n awr yn cynnwys llawer o dechnoleg – mae'n gywir iawn ac rydw i'n gobeithio y bydd hi'n agos iawn rhwng y ddau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.