Euro 2025: Cymru i wynebu Slofacia yn y gemau ail-gyfle
Bydd Cymru yn wynebu Slofacia yn rownd gyntaf gemau ail-gyfle Euro 2025.
Roedd tîm Rhian Wilkinson wedi gorffen ar frig Grŵp B4 ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Kosovo nos Fawrth.
Fe fydd Cymru yn herio Slofacia oddi cartref ar 25 Hydref, cyn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 29 Hydref.
Pe bai Cymru yn ennill y rownd honno, fe fydd yn chwarae yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia yn y rownd derfynol, gyda'r enillydd yn hawlio eu lle yn Euro 2025.
Fydd Cymru yn chwarae'r gêm gyntaf yn erbyn eu gwrthwynebwyr yng Nghymru ar 29 Tachwedd a chwarae'r ail gymal oddi cartref ar 3 Rhagfyr.
Dywedodd rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson bod gan Gymru gyfle cyffrous i gyrraedd yr Euros.
"Dw i wedi dweud wrth y tîm ein bod ni'n mynd i fod angen y chwaraewyr profiadol i gamu i fyny ac arwain, ac rydyn ni'n mynd i fod angen ein chwaraewyr ifanc i roi'r gic i ni pan rydyn ni ei angen," meddai.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn iddyn nhw ac maen nhw’n mynd i fod angen ei gilydd os ydyn ni am fod yn llwyddiannus.”
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru