Newyddion S4C

Jess Fishlock yn torri record goliau Cymru wrth i Gymru guro Kosovo

16/07/2024
Jess Fishlock

Jess Fishlock yw prif sgoriwr Cymru wedi iddi sgorio gôl rhif 45 dros ei gwlad yn y fuddugoliaeth yn erbyn Kosovo nos Fawrth.

Sgoriodd y chwaraewraig canol cae, gôl gyntaf y gêm ym Mharc y Scarlets wedi saith munud, i dorri record Helen Ward sydd â 44 o goliau. 

Mae gan brif sgoriwr y dynion, Gareth Bale 41 o goliau.

Enillodd Cymru 2-0 sydd yn sicrhau eu bod yn ennill Grŵp B4.

Mae hynny'n golygu  y bydd y tîm yn cymhwyso ar gyfer y cam nesaf i geisio cyrraedd Euro 2025.

Mary McAteer sgoriodd yr ail gôl ar Barc y Scarlets, ei chyntaf dros ei gwlad.

Sgoriodd Fishlock ei gôl gyntaf dros Gymru yn 2009 ac mae wedi chwarae 155 o gemau.

Wrth ymateb i Fishlock yn torri ei record hi, dywedodd Helen Ward ei bod hi wedi disgwyl i hynny ddigwydd ers tro.

"Roeddwn i'n gwybod ers hir bod hi'n mynd i dorri'r record," meddai ar raglen BBC Sport Wales.

"Roedd hi yn erbyn gwrthwynebwyr byddech chi'n disgwyl iddi sgorio yn eu herbyn, ond byddwn i'n betio arian mawr os oedd Cymru yn chwarae yn erbyn Yr Almaen neu Ffrainc byddai hi dal wedi torri'r record.

"Dyna'r math o chwaraewraig yw hi, mae hi wedi sgorio goliau ar adegau pwysig i'w gwlad."

"Hi yw'r un sydd yn arwain y ffordd, a dyna mae hi wedi bod yn gwneud ers 20 mlynedd bellach."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.