Tair blynedd o garchar i yrrwr lori am ladd dyn drwy yrru’n beryglus

05/07/2021
Ben Partis
Ben Partis

Mae gyrrwr lori wedi ei garcharu am dair blynedd ar ôl pledio’n euog i achosi marwolaeth dyn o Geredigion.

Cafodd David Tony Platt, 26 oed, o Swydd Amwythig, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.

Fe gyfaddefodd iddo achosi marwolaeth Benjamin Partis, 38, o Aberteifi, mewn gwrandawiad blaenorol.

Clywodd y llys fod Platt wedi gyrru lori oedd yn cario 30 tunnell o fwyd anifeiliaid pan fethodd ymateb yn briodol i gerbydau oedd wedi stopio o’i flaen.

Trodd Platt y lori i lwybr traffig oedd yn dod tuag ato ar yr A487 ger Pentregat, Ceredigion ar 8 Mehefin 2020.

Gwrthdarodd lori Platt gyda Ford Transit oedd yn cael ei yrru gan Mr Partis, a fu farw yn y fan a’r lle, gyda’r teithiwr John Noble yn derbyn anafiadau difrifol.

Cafodd Platt ei ddedfrydu hefyd am achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi cyfaddef yn ystod ei gyfweliad gyda’r heddlu fod ei sylw wedi’i hawlio gan ei ffôn symudol yn gynharach yn ystod ei siwrnai.  

Roedd hefyd yn gyrru’n gyflymach na’r terfyn cyflymder yn syth cyn y gwrthdrawiad.

Cafodd Platt ei ddedfrydu i dair blynedd dan glo gyda diarddeliad gyrru am 42 mis ac fe fydd rhaid iddo sefyll prawf ehangach.

Yn y llun: Benjamin Partis, 26 oed, a fu farw yn dilyn y gwrthdrawiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.