
Yr heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn tân 'heb esboniad' mewn hen ysgol yn Llandysul
Yr heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn tân 'heb esboniad' mewn hen ysgol yn Llandysul
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn tân "heb esboniad" mewn hen ysgol yn Llandysul ddydd Mercher.
Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw am 07:40 fore Mercher i ddigwyddiad ar Ffordd Penwalle.
Ymatebodd criwiau tân o Landysul, Castell Newydd Emlyn, Llanbedr Pont Steffan, Cei Newydd, Port Talbot, Aberystwyth a Chaerfyrddin i'r digwyddiad.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y tân wedi achosi "difrod helaeth" i'r adeilad.
"Mae'r tân wedi'i ddiffodd ond mae'r difrod i'r adeilad yn helaeth ac nid yw'n ddiogel mynd i mewn iddo.
"Bydd swyddogion yn gweithio gydag ymchwilwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ganfod achos y tân sy’n cael ei drin fel un heb esboniad ar hyn o bryd."
Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod 50 o'r 17fed.