Yr Urdd yn 'croesawu' cynnig i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2027 yng Nghasnewydd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi dweud eu bod yn “croesawu” cynnig Cyngor Casnewydd i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2027.
Roedd y cyngor wedi dod at ei gilydd ddydd Mercher er mwyn trafod y posibilrwydd o gynnal yr ŵyl.
Os caiff ei ddewis, hwn fydd y tro cyntaf i Gasnewydd gynnal yr ŵyl.
Dywedodd y Cynghorydd Emma Stowell-Corten, aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant: “Rydym yn falch iawn bod Urdd Gobaith Cymru yn awyddus i ddod ag Eisteddfod 2027 i Gasnewydd, ac o gael cynnig cefnogaeth ffurfiol y cyngor i'r cynigion.
“Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr.”
“O'r Eisteddfod Genedlaethol i Gwpan Ryder, nid yw Casnewydd yn ddieithr i gynnal digwyddiadau mawr, ac rydym yn obeithiol y gallwn ychwanegu Eisteddfod yr Urdd at y rhestr honno.”
Dywedodd y Cynghorydd Pat Drewett, aelod cabinet dros gymunedau a lleihau tlodi: “Eisteddfod yr Urdd fyddai'r digwyddiad Cymraeg mwyaf i Gasnewydd ei gynnal ers 2004.
“Mae cynnal yr Eisteddfod yn unol â'n hamcanion o ran cynyddu nifer y plant yng Nghasnewydd sy'n dysgu drwy leoliad addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn y ddinas."
'Diolchgar'
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau i'r mudiad, eu bod yn y broses o drafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod, gan ddweud y bydd union safle’r ŵyl yn cael ei gadarnhau mewn cyfarfod cyhoeddus ar ddydd Iau 12 Medi yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd.
Cyhoeddodd Cyfarwyddwr y Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru, Llio Maddocks, ddydd Iau ei bod bellach yn “hynod o ddiolchgar” i’r awdurdod lleol am eu "cefnogaeth i’r mudiad â’n gŵyl," gan gadarnhau eu bod wedi cynnig cartref i’r ŵyl.
“Braf iawn oedd clywed am gefnogaeth aelodau o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r ardal yn 2027,” meddai.
Dywedodd hefyd y bydd trefniadau cychwynnol yn cael eu cynnal gyda gwirfoddolwyr lleol adeg hynny yn ogystal.
Eleni, fe gafodd yr ŵyl ei chynnal ym Maldwyn, ger Meifod.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 yn cael ei chynnal ym Mharc Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026.