Newyddion S4C

Galw ar ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol i 'gefnogi pantri bwyd lleol'

banc bwyd steddfod.png

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi galw ar ymwelwyr yr ŵyl i gefnogi pantri bwyd lleol.

Mae'r trefnwyr wedi bod yn cydweithio gyda Strategaeth Bryncynon sydd yn mynd i'r afael â materion allweddol yng nghymuned Cwmn Cynon. 

Maent wedi cydweithio i gynhyrchu llyfr ryseitiau cymunedol a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod, gyda llawer ohonynt wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. 

Fel rhan o'r berthynas, mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i gefnogi'r pantri bwyd drwy ddod â chyflenwadau i’r ŵyl.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd rhwng 3 a 10 Awst. 

Dywedodd Cydlynydd Strategaeth Bryncynon, Nina Finnigan: "Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gweithio gyda’r Eisteddfod yn ystod yr ŵyl yn Rhondda Cynon Taf, ac rydw i’n ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor lleol am awgrymu casglu cyflenwadau ar gyfer pantri bwyd Strategaeth Bryncynon.

"Mae’r pantri bwyd yn hygyrch i bawb heb farn a rhagdybiaeth a gall ymwelwyr â’r pantri gymdeithasu â lluniaeth am ddim mewn awyrgylch ddiogel a chyfforddus."

Ychwanegodd Cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser: "Roedden wrth ein bodd pan awgrymodd un o’n pwyllgor ein bod ni’n trefnu casgliad ar gyfer pantri bwyd Strategaeth Bryncynon yn ystod yr Eisteddfod.

"Mae cymunedau a sefydliadau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf wedi bod mor gefnogol dros y flwyddyn a hanner diwethaf ac mae hyn yn gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy gynnig cymorth ymarferol yn ystod yr ŵyl."





 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.