Trump yn mynychu cynhadledd y Gweriniaethwyr llai na ddeuddydd ers cael ei saethu
Trump yn mynychu cynhadledd y Gweriniaethwyr llai na ddeuddydd ers cael ei saethu
Llai na deuddydd ers yr ymgais i'w lofruddio a Donald Trump yn awyddus i fwrw 'mlaen wrth lanio yn Milwaukee ar gyfer cynhadledd flynyddol y Gweriniaethwyr.
Y lluniau yma'n dangos yr anaf i'w glust eiliadau wedi'r saethu y Cyn-arlywydd yn bloeddio ei fod e'n brwydro ymlaen. Gwylio'n fyw ar y teledu o'i gartref ym Montana oedd y Gweriniaethwr Dulais Rhys.
"Mae'n anodd credu a roedd e mor ysgytwol i weld be ddigwyddodd. Mae dal yn codi cryd arnaf ac mae bron fel rhywbeth mas o ffilm. Dw i'n gobeithio os ddaw rhywbeth da mas o'r digwyddiad 'ma y bydd pobl yn meddwl dwywaith cyn agor eu cegau y gwleidyddion ac yn enwedig y bobl ar y teledu.
"Mae'r prif gyfryngau teledu wedi bod yn gas yn erbyn Trump ers y dechrau."
Ac o Washington ei wrthwynebydd yr Arlywydd Biden yn galw am undod.
"We can't allow this violence to be normalised. The political rhetoric of this country has gotten very heated. It's time to cool down and we all have a responsibility to do that."
Cafodd Corey Comperatore, yn dad i ddau ac yn gefnogwr o Trump ei ladd. A'r saethwr, Thomas Matthew Crooks, 20 oed, ei saethu'n farw gan yr FBI.
Mae Ysgrifennydd Diogelwch y Llywodraeth wedi beirniadu methiannau'r gwasanaethau cudd i atal Crooks rhag cael mynediad yn y lle cyntaf a sut y llwyddodd fod mor agos at y llwyfan.
Er bod hi dal yn aneglur beth oedd cymhellliad Crooks i geisio lladd y Cyn-arlywydd mae'r digwyddiad bron yn sicr wedi rhoi hwb i'w boblogrwydd a'i ymgyrch ar gyfer y ras i'r Tŷ Gwyn.
"Mae'n ymddangos fel 'ny ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod y pwysau nawr yn cwympo ar ysgwyddau Trump i geisio gwireddu'r hyn mae wedi gweud nawr.
"Mae eisiau creu awyrgylch o undod yn hytrach na chasineb. Yn ystod yr wythnos hon yn y confensiwn y Gweriniaethwyr bydd cyfle mawr ganddo fe a'r blaid i wneud hynny."
Yn ôl swyddogion, mae cynhadledd y Gweriniaethwyr yn parhau gyda'r disgwyl y bydd Donald Trump yn cael ei gadarnhau fel ymgeisydd swyddogol y blaid i'r etholiad arlywyddol.
A chefnogaeth ei gefnogwyr yn gryfach nag erioed.