
Achub ceffyl o ganol mwd yn Aberhonddu
Mae ceffyl 20 oed wedi cael ei achub o ganol mwd wedi digwyddiad yn Aberhonddu dros y penwythnos.
Am 12:00 ddydd Sul, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberhonddu a'r Tîm Achub Anifeiliaid o Orsaf Dân Pontardawe eu galw i ddigwyddiad yn Libanus, Aberhonddu.
Ymatebodd y criwiau wedi adroddiadau fod ceffyl yn sownd mewn darn corsiog o gae.
Roedd y ceffyl yn sownd mewn tua pedair troedfedd o fwd, ac fe gafodd y criwiau drafferth i'w ryddhau oherwydd bod un o'i goesau ôl wedi cael ei sugno'n ddwfn i'r gors.

Llwyddodd y criwiau i ryddhau y ceffyl ac fe gafodd ei weld gan filfeddygon cyn dychwelyd at ei berchennog.
Gadawodd y criwiau'r safle am 14:10.
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dimau Achub Anifeiliaid arbenigol sydd wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Pontardawe, Caerfyrddin, Machynlleth a Rhaeadr Gwy, gydag amrywiaeth o offer arbenigol yn cael eu defnyddio i achub anifeiliaid.