Marwolaethau bwa croes: John Hunt yn annog pobl i 'wneud y mwyaf o bob dydd'
Mae sylwebydd rasio’r BBC, John Hunt wedi annog pobl i “wneud y mwyaf o bob dydd” yn dilyn marwolaeth tri aelod o’i deulu mewn ymosodiad bwa croes, medd ei ffrind.
Bu farw Carol Hunt, 61 oed, Hannah Hunt, 28 oed, a Louise Hunt, 25 oed, yn eu cartref yn Bushey, Sir Hertford, nos Fawrth diwethaf.
Cafodd Kyle Clifford, 26 oed, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaethau ar ôl iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau yn ardal Hilly Fields yn Enfield, gogledd Llundain, ar 10 Gorffennaf.
Mae ymgyrch codi arian bellach wedi’i sefydlu er mwyn cefnogi John Hunt a’i ferch Amy yn dilyn y digwyddiad.
Cyd-weithiwr Mr Hunt, Matt Chapman, sydd yn gyfrifol am y dudalen codi arian sydd eisoes wedi codi dros £43,000.
Cafodd y dudalen codi arian ei sefydlu wedi i’r teulu derbyn miloedd o negeseuon o gymorth, medd Mr Chapman.
“Yr hyn allwn ni ei wneud yw codi cymaint o arian a phosib ar gyfer y teulu Hunt, yn benodol i’r ferch Amy," meddai.
Dywedodd y byddai John Hunt wrth ei fodd petai i ddigon o arian gael ei godi er mwyn sicrhau na fydd unrhyw bryderon ariannol gyda’i ferch.
“Wrth gwrs, yn ystod cyfnodau heriol mae bywyd yn parhau," meddai.
“Os allwn ni leddfu straen yr Hunts, yna pam na fyddem ni i gyd yn gwneud hynny?
“Dyma deulu arbennig sydd wedi torri eu calonnau."