Newyddion S4C

Gollwg achos yn erbyn Donald Trump ddeuddydd wedi iddo gael ei saethu

15/07/2024
Trump

Mae barnwr yn Florida wedi gollwng achos troseddol yn erbyn Donald Trump, lle roedd wedi ei gyhuddo o gadw dogfennau swyddogol yn anghyfreithlon. 

Y llynedd, plediodd y cyn arlywydd yn ddi-euog mewn llys ffederal i 37 o gyhuddiadau troseddol yn ei erbyn yn ymwneud â chadw dogfennau swyddogol a chyfrinachol yn anghyfreithlon wedi iddo adael y Tŷ Gwyn.

Yn ôl honiadau ar y pryd, cafodd y dogfennau eu storio mewn cawod, ystafell ymolchi, ystafell ddawnsio ac ystafell wely ei gartref, sef Mar-a-Lago.

Trump oedd y cyn-arlywydd cyntaf i wynebu cyhuddiadau o'r fath.

Ond ddydd Llun, dyfarnodd y Barnwr Aileen Cannon, a gafodd eu henwebu gan Mr Trump, fod y Cwnsler Arbennig Jack Smith - a oedd yn arwain yr erlyniad - wedi ei benodi yn anghyfreithlon i'w rôl ac nad oedd ganddo'r awdurod i ddwyn yr achos yn erbyn Donald Trump.    

Roedd yr achos hwn yn un o bedwar achos troseddol y mae Mr Trump yn eu herio wrth iddo ymgeisio i ail gael ei ail ethol yn Arlywydd America.

Yn ôl adroddiadau, wrth ymateb i'r dyfarniad ddydd Llun, mae cyn Arlywydd America  wedi dweud y dylai pob un o'r achosion yn ei erbyn gael eu gollwng.   

'Fight!'

Ddeuddydd ers iddo gael ei saethu, mae Donald Trump yn Milwaukee ar gyfer cynhadledd y Blaid Weriniaethol, lle mae disgwyl iddo gael ei enwebu'n ffurfiol yn ymgeisydd y Gwerniaethwyr ar gyfer y ras i'r Tŷ Gwyn. 

Does dim disgwyl i gyn arlywydd America siarad yn y gynhadledd tan ddydd Iau  

Fe ddywedodd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi ystyried oedi'r daith ond fe benderfynodd nad oedd yn gallu gadael i'r hyn ddigwyddodd "newid yr amserlen". 

Cafodd Donald Trump ei gludo i ysbyty gydag anafiadau wedi i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania ddydd Sadwrn.

Roedd lluniau teledu o'r digwyddiad yn dangos Mr Trump yn disgyn i'r llawr cyn cael ei amgylchynu gan swyddogion o'r gwasanaethau cudd.

Fe gododd ar ei draed ar ôl tua munud gyda gwaed ar ei glust dde a'i foch, cyn gweiddi 'Fight! Fight!' at ei gefnogwyr yn y dorf.

Y saethwr

Cafodd yr ymosodwr ei saethu'n farw. Roedd Thomas Matthew Crooks yn 20 oed.

Roedd Crooks yn dod o Barc Bethel, Pennsylvania, tua awr o'r fan lle cafodd y rali ei chynnal.

Roedd yn Weriniaethwr cofrestredig, yn ôl cofnodion pleidleiswyr y wladwriaeth.

Ond yn ôl Reuters, pan roedd Crooks yn 17 oed, fe wnaeth gyfraniad o $15 i ActBlue, sef pwyllgor gweithredu gwleidyddol sy'n codi arian ar gyfer gwleidyddion adain chwith a Democrataidd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.