Cyn-weithiwr yn dweud iddi golli ffydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyn-weithiwr yn dweud iddi golli ffydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae un o gyn-weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi disgrifio iddi golli ffydd ar ôl gweld “gymaint o broblemau” yn gweithio i’r sefydliad.
Rheoleiddiwr amgylcheddol yw Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am warchod yr amgylchedd a gwrthsefyll newid hinsawdd. Yn 2023 roedd eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru yn £145m.
Mae Dr Emma Wiik, sy’n wreiddiol o’r Ffindir, yn wyddonydd gydag arbenigedd mewn ecoleg. Roedd hi’n gweithio i’r corff rhwng 2020 a 2023 fel rhan o’r timoedd afonydd a newid hinsawdd.
‘Dim digon o bobl nag arian’
Fe benderfynodd Dr Wiik weithio i’r sefydliad, a gaeth ei greu yn 2013, gan ei bod yn “caru natur ac eisiau gwneud gwahaniaeth”.
Ond ymhen amser fe wnaeth sylweddoli fod problemau yn perthyn i’r sefydliad: “Mae ‘na ddiffyg enfawr o adnoddau yn y sefydliad.
"Does ‘na ddim digon o bobl, does 'na ddim digon o arian…a ma na lot, lot, lot o brosiectau sy’ ddim yn mynd i nunlle achos does dim amser i neb prioritisio nhw”.
Dywedodd Dr Wiik wrth Dot Davies ar raglen Y Byd ar Bedwar ei bod hi’n teimlo fod yna “ddim pwynt bod yno” ac fe dyfodd yn fwy a fwy rhwystredig gyda diffyg gweithredu.
Ar ben hyn, daeth ar draws dogfennau mewnol lle'r oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfaddef sawl methiant.
Mewn un, roedd y sefydliad yn dweud nad oedden nhw’n monitro 80% o’r gollyngiadau gwastraff sydd wedi’u trwyddedu yng Nghymru.
Mae monitro byd natur yn un o ddyletswyddau cyfreithiol Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond tra roedd Dr Wiik yno, mae hi’n dweud iddi ddarganfod fod rhai ardaloedd, fel rhannau penodol o afonydd, heb gael eu monitro ers dros bymtheg mlynedd yn ôl.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw un o sefydliadau cyhoeddus mwyaf y wlad, sy’n cyflogi o gwmpas 2,000 o bobl.
Dros y tair blynedd ddiwethaf maen nhw wedi gweld cynnydd mewn achosion o chwythu’r chwiban o fewn y sefydliad. Yn 2020 doedd dim un achos, ond erbyn 2023 roedd saith.
Dywedodd cyn-weithiwr arall o Cyfoeth Naturiol Cymru, oedd yn dymuno aros yn anhysbys fod y corff yn wynebu colli swyddi a bod y sefyllfa yn rhoi pwysau mawr ar weithwyr a phrosiectau tymor hir.
Problemau ar lawr gwlad
Mae rhai sy’n dibynnu ar Cyfoeth Naturiol Cymru i warchod byd natur wedi rhannu eu rhwystredigaeth ar y rhaglen.
Dywedodd Andrew Thomas o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ei fod wedi adrodd o leiaf deg achos o lygredd i'r corff yn y misoedd diwethaf, ond ei fod yn “lwcus” os ydynt yn ymweld â’r safle ar yr un diwrnod.
“Beth maen nhw’n wneud? Mae’n nhw’n missing in action. Mae’n torri fy nghalon,” meddai.
Mae ymchwil ITV Cymru wedi datgelu na wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru fynychu fwy na hanner o’r digwyddiadau amgylcheddol gath eu hadrodd iddynt rhwng Ionawr 2023 a 2024.
Ar y Teifi, afon yng Ngheredigion a Sir Gâr, cafodd un digwyddiad o lygredd dŵr ddim ei fynychu am 118 o ddiwrnodiau.
Mae Andrew eisiau gweld presenoldeb gwell gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar lawr gwlad, a chosbau llymach i’r rhai sy’n llygru.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru erlyn cwmnïau 215 o weithiau rhwng 2016 a 2024, gyda dirwyon gwerth £2.5m.
Ond mae nifer yr erlyniadau wedi gostwng dros y blynyddoedd, tra bod cosbau fel ‘Rhybudd’ neu ‘Cyngor ac Arweiniad’ wedi cynyddu.
“Chi’n gallu siarad a siarad, ond pan mae rhywun yn llygru trwy’r gaeaf, a trwy’r haf, a s’dim byd yn digwydd, wel s’dim byd yn mynd i newid,” meddai Andrew.
Ychwanegodd Dr Emma Wiik, sydd wedi gadael Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn: “Petawn i’n dwyn o’r siop, byse’r heddlu ddim yn dod yma i siarad hefo fi.
"Mae’n anfon y neges i’r llygrwyr bod e’n iawn iddyn nhw wneud hyn dro ar ôl tro a bydd dim byd yn digwydd.”
Fe wnaeth Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod gwneud cyfweliad gyda Y Byd ar Bedwar.
Mewn datganiad, fe ddywedodd bod llawer o waith i’w wneud o hyd ond bod cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud o ran gwella ansawdd dŵr, tir ac aer dros y 30 mlynedd ddiwethaf.

O ran gweithwyr y sefydliad, dywedodd eu bod nhw “bob amser yn mynd gam ymhellach dros y bobl a’r lleoedd ry’n ni’n eu gwasanaethu, ac mae sicrhau eu lles yn wyneb craffu a beirniadaeth gyson o’r pwys mwyaf i ni.”
“Wrth i’r heriau sy’n ein hwynebu ddwysáu, o’r cynnydd yn y boblogaeth i’r argyfyngau hinsawdd a natur, felly hefyd y gwnaiff ein hymrwymiad i gadw pobl a byd natur yn ddiogel rhag effeithiau digwyddiadau amgylcheddol, ac i orfodi’r rheolau sy’n sicrhau bod diwydiannau ar hyd a lled Cymru yn cael eu rheoleiddio’n gadarn er mwyn lleihau llygredd,” meddai.
Ychwanegodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi pwysau ar gwmnïau dŵr i wneud gwelliannau a’u bod nhw wedi israddio Dŵr Cymru o gwmni tair seren, i ddwy seren oherwydd eu perfformiad amgylcheddol.
Mae Dŵr Cymru ar y llaw arall wedi dweud wrth raglen Y Byd ar Bedwar eu bod yn buddsoddi £1.4 biliwn mewn i’r system gwastraff dŵr rhwng 2015 a 2025.
Wrth ymateb i bryderon am reoleiddio a chosbi, dywed Clare Pillman fod y sefydliad yn cryfhau y gwaith yma er mwyn “ysgogi perfformiadau gwell ar draws sectorau ehangach amaethyddiaeth, diwydiant a dŵr”.
I wneud y gwaith yma maent wedi cyflwyno swyddogion arbenigol ar lawr gwlad, cynyddu nifer y gwiriadau cydymffurfiaeth a defnyddio offer data newydd.
“Pan gaiff y rheolau eu torri, a phan gaiff difrod difrifol neu fwriadol ei wneud i’r amgylchedd, nid ydym yn petruso cyn cymryd y camau gorfodi cymesur sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y sawl sy’n llygru yn talu.
“Ond fel pob corff cyhoeddus, nid yw ein hadnoddau’n ddiderfyn, ac mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut a ble i ganolbwyntio ein hymdrechion i ddiogelu bywydau, bywoliaethau a’r amgylchedd.
"Er y byddwn yn dal ati i ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym mewn ffordd graff ac arloesol, bydd angen i ni flaenoriaethu’r camau hynny i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ac i fyd natur ac i gyflawni’r gwelliannau i’n hamgylchedd y mae pawb am eu gweld.”
Cafodd y pryderon eu codi gyda Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r sefydliad.
Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS yn cydnabod bod Cyfoeth Naturiol Cymru dan bwysau.
Dywedodd bod y llywodraeth wedi “rhoi £18.5 miliwn ychwanegol” iddyn nhw er mwyn “cyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol a rheoleiddiol”.
Er bod yr Ysgrifennydd yn cydnabod bod y sefydliad “eisiau codi eu safonau ar draws ystod eang o faterion”, eglurodd bod yna bwysau ar y sector gyhoeddus gyfan, ac “os fydde byd delfrydol ble gallwn wedi buddsoddi mwy i mewn iddyn nhw, byddwn ni wedi gwneud hynny”.
Bydd rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar: Pwy sy’n Heddlua’r Amgylchedd?’ ar gael i wylio nos Lun am 20:00 ar S4C, Clic, a BBC iPlayer.