Awgrymu rhoi llinell rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ar arwyddion ffyrdd i 'osgoi dryswch'
Mae cynghorydd sir wedi awgrymu y gallai llinell rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ar arwyddion ffyrdd helpu i "osgoi dryswch".
Cafodd y syniad ei gynnig gan Jane Lucas, cynghorydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Osbaston ar Gyngor Sir Fynwy.
Dywedodd Ms Lucas, sy'n arholwr gyrru, ei bod yn cael trafferth darllen gwybodaeth am arwyddion ffyrdd gan fod ganddi ddyslecsia.
Cafodd y syniad ei drafod wrth i bwyllgor craffu Cyngor Sir Fynwy ystyried ei Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg.
Gofynnodd Ms Lucas: “A fyddai'n bosib i ni roi llinell fertigol rhwng y Saesneg a’r Gymraeg?”
“Byddai’n helpu i osgoi dryswch, byddai’n sicr o fy helpu i.”
Dywedodd cynghorydd Osbaston y byddai’n mynd heibio arwydd ffordd yn aml cyn iddi nodi’r geiriad Saesneg ond y byddai llinell yn ei helpu i’w adnabod.
“Byddai rhywbeth bach fel llinell, byddai dy lygad yn mynd yno, boed uwch neu islaw. Nid wyf yn dweud bod un yn gywir nac yn anghywir,” meddai.
'Cymraeg yn gyntaf'
Dywedodd swyddog yr iaith Gymraeg, Nia Roberts, ei fod yn safonol i destun Cymraeg fod yn “uwch” ar arwyddion fel ei fod yn cael ei ddarllen yn gyntaf.
Ychwanegodd Ms Roberts y dylai gwybod pa iaith sy'n ymddangos yn gyntaf ar arwyddion fod o gymorth i yrwyr, ac y byddai'n rhaid edrych ymhellach ar unrhyw newidiadau sy'n cael eu hawgrymu.
Mewn ymateb, dywedodd Pennie Walker, rheolwr cydraddoldeb a’r Gymraeg y cyngor, y gallai godi’r mater gyda’r adran sy’n gyfrifol am arwyddion yn sgil yr effaith posib y mae'n ei gael ar y rhai sydd â dyslecsia.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, cynghorydd Ceidwadol dros Gobion Fawr, Alistair Neill: “Ni fyddai’n bwynt afresymol, gydag 83 y cant o drigolion Sir Fynwy heb unrhyw Gymraeg, a ydyn nhw’n rhoi digon o sylw i’r Saesneg?”
Ychwanegodd Mr Neill: “Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn gyrru 20 milltir yr awr nawr, felly mae gennych chi ychydig yn hirach i’w darllen.”
Dywedodd cynghorydd annibynnol Brynbuga, Meirion Howells, ei fod yn ddwyieithog ac felly nad yw’n broblem iddo.
Ond dywedodd fod eraill hefyd wedi awgrymu rhoi llinell ar arwyddion neu “fflagiau bach wedi’u gosod arnyn nhw, i ddal y llygad”.