Rygbi: Nawfed colled o’r fron i Gymru wrth i’r Wallabies ennill Cyfres yr Haf

13/07/2024
Liam Williams - Aws v Cym 2023

Fe wnaeth tîm rygbi Cymru golli eu nawfed gêm o'r fron wrth i Awstralia ennill o 36-28 yn ail brawf Cyfres yr Haf.

Er gwaetha’r sgorfwrdd, roedd hon yn berfformiad llawn calon ac awch gan y Cymry ifanc, wrth iddyn nhw frwydro’n ddi-baid draw yn Melbourne.

Ond camgymeriadau niferus a diffyg profiad mewn cyfnodau allweddol gan dîm Warren Gatland oedd rhai o’r prif resymau y tu ôl i’r golled siomedig.

Ar ôl dechreuad llawn tempo gan y ddau dîm mewn glaw trwm, y Wallabies lwyddodd i daro yn gyntaf gyda chais gwefreiddiol gafodd ei orffen gan Filipo Daugunu. 

Llwyddodd Noah Lolesio gyda’r trosiad, cyn ychwanegu triphwynt yn ddiweddarach gyda chic gosb.

Er i Gymru geisio taro yn ôl, Awstralia oedd y nesaf i sgorio, gyda Jake Gordon yn manteisio ar ôl i gefnwr Cymru, Cameron Winnett, fethu dal ei afael ar y bêl.

Ond daeth ymateb yn syth gan y Cymry, gyda’r capten Dewi Lake yn llywio sgarmes symudol dros y llinell gais, cyn i Ben Thomas ychwanegu dau bwynt gyda’r trosiad.

Fe wnaeth Lolesio ymestyn mantais Awstralia gyda chic gosb, ond daeth Cymru yn ôl unwaith eto gydag ail gais gan Lake o sgarmes symudol arall. Llwyddodd Thomas gyda’r trosiad i ddod a Chymru yn ôl o fewn chwe phwynt.

Ond yn syth ar ôl ail-ddechrau, fe ildiodd y cochion gic cosb arall, gyda Lolesio yn ei gwneud hi’n 23-14 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ail hanner

Dechreuodd yr ail hanner gyda Chymru yn ymosod eto, gan arwain at gais gan Liam Williams. 

Dyma oedd 21ain cais rhyngwladol yr olwr, a wnaeth godi i 7fed ar y rhestr o’r chwaraewyr â nifer o geisiau dros Gymru. Fe lwyddodd Ben Thomas i drosi'r cais.

Ond unwaith eto, daeth Awstralia syth yn ôl gyda chais eu hunain, wrth i’r prop Allan Alaalatoa orfodi ei ffordd dros y llinell.

Roedd camgymeriadau gan Gymru yn parhau, ac wrth geisio cadw cic am yr ystlys gan y Wallabies ar dir y byw, fe wnaeth Williams wyro’r bêl i gyfeiriad yr asgellwr Daugunu, cyn iddo rasio am bedwaredd cais ei dîm.

Ar ôl 70 munud, daeth yr ymateb gan dîm Gatland unwaith eto, wrth i Rio Dyer ddangos cyflymder a phŵer i dirio cais arall. Fe lwyddodd yr eilydd Sam Costelow gyda throsiad o’r ystlys i ddod a’r sgôr i 28-33 o blaid y Wallabies, a chadw gobeithion ei dîm am fuddugoliaeth yn fyw.

Ond gyda thri munud yn weddill, fe wnaeth y Cymry ildio cic cosb arall o flaen y pyst, i’r eilydd Ben Donaldson ei drosi a rhoi’r gêm y tu hwnt i gyrraedd eu gwrthwynebwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.