Rygbi: 'Angenrheidiol' i Gymru ennill yn erbyn Awstralia
Rygbi: 'Angenrheidiol' i Gymru ennill yn erbyn Awstralia
Mae canolwr Cymru Owen Watkin wedi dweud ei fod yn "angenrheidiol" i Gymru ennill yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Fe gollodd Cymru'r gêm brawf cyfeillgar gyntaf yn erbyn Awstralia 25-16 ddydd Sadwrn diwethaf.
Dyma fydd eu hail gêm yn ystod eu taith i'r wlad cyn herio Queensland Reds.
Dim ond unwaith y mae Cymru wedi ennill yn erbyn y Wallabies yn Awstralia, ac roedd hynny yn 1969.
Erbyn hyn, maen nhw wedi colli 12 o weithiau yn olynol.
“Roedden ni’n siomedig iawn gyda’r canlyniad tro diwethaf oherwydd fe aethon ni i mewn i’r gêm gan gredu’n llwyr y gallwn ni ennill," meddai.
"Roeddem ni wedi methu nifer i gyfleoedd, a doedden ni ddim yn hapus gyda nifer y ciciau cosb a’r gwallau wnaethon ni.
“Mae agwedd bositif yn dal i fod yn y garfan, ac mae buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn angenrheidiol.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia
5. Cameron Winnett (Caerdydd – 6 cap)
14. Liam Williams (Kubota Spears – 91 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 40 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 13 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 21 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd – 3 chap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 2 gap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 32 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 14 cap - capten)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 2 gap)
4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 11 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 18 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 12 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 19 cap)
8. Taine Plumtree (Scarlets – 4 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 4 cap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 4 cap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 3 chap)
19. Cory Hill (Secom Rugguts – 33 cap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 4 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 22 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 14 cap)
23. Nick Tompkins (Saraseniaid – 37 cap)