Rygbi: Aaron Wainwright i fethu gweddill taith Awstralia yn sgil anaf
Bydd Aaron Wainwright yn methu gweddill taith rygbi Cymru yn Awstralia ar ôl cael ei anafu.
Fe gafodd Wainwright anaf i'w goes yn y gêm gyntaf o'r daith yr wythnos diwethaf.
Mae disgwyl iddo fethu dechrau'r tymor newydd i'r Dreigiau, hefyd.
James Botham fydd yn cymryd ei le yn rheng ôl Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn, gyda Taine Plumtree yn gwisgo'r crys rhif wyth.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1811176459584803023
Bydd Gareth Thomas a Liam Williams hefyd yn cychwyn y gêm, wedi amheuon dros eu ffitrwydd yn dilyn y prawf cyntaf.
Cameron Winnett sydd wedi'i enwi'n gefnwr, gyda Williams yn symud i'r asgell.
Collodd Cymru y gêm brawf yn Sydney o 25-16 yn , gyda Wainwright yn gadael y cau ym munud olaf y gêm.
Ond mae amheuon bellach a fydd yn gallu chwarae yng ngemau'r hydref i Gymru yn erbyn Ffiji, De Affrica ac Awstralia ym mis Tachwedd.
Mae tîm rygbi dynion Cymru wedi disgyn i safle rhif 11 yn nhabl detholion y byd, wedi'r golled yn erbyn Awstralia yn Sydney ddydd Sadwrn, yr wythfed gêm yn olynol i Gymru golli.
Mae hyn yn golygu eu bod wedi llithro tu allan i’r 10 uchaf am y tro cyntaf ers cyflwyno’r safleoedd yn 2003.
De Affrica sydd ar frig tabl detholion y byd gydag Iwerddon yn ail a Seland Newydd yn drydydd.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia
15. Cameron Winnett (Caerdydd – 6 cap)
14. Liam Williams (Kubota Spears – 91 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 40 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 13 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 21 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd – 3 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 2 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 32 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 14 cap - capten)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 2 cap)
4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 11 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 18 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 12 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 19 cap)
8. Taine Plumtree (Scarlets – 4 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 4 cap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 4 cap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 3 cap)
19. Cory Hill (Secom Rugguts – 33 cap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 4 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 22 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 14 cap)
23. Nick Tompkins (Saraseniaid – 37 cap)