Newyddion S4C

Dod o hyd i ddyn sydd dan amheuaeth o lofruddio gwraig a dwy o ferched sylwebydd BBC

10/07/2024

Dod o hyd i ddyn sydd dan amheuaeth o lofruddio gwraig a dwy o ferched sylwebydd BBC

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ddyn sy’n cael ei amau ​​o lofruddio gwraig a dwy o ferched sylwebydd i'r BBC.

Dywedodd Heddlu Swydd Hertford eu bod nhw wedi dod o hyd i Kyle Clifford yn ardal Enfield yng ngogledd Llundain.

Mae’n derbyn triniaeth am anafiadau, medden nhw.

Ychwanegodd y llu mai gwraig y sylwebydd rasio ceffylau John Hunt, Carol Hunt, a dwy o’i ferched oedd y rhai a gafodd eu lladd. 

Roedd Hannah Hunt yn 28 oed, Louise Hunt yn 25 oed a Carol Hunt yn 61 oed. 

Bu farw'r tair yn y fan a'r lle yn ôl yr heddlu.  

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Justine Jenkins o Uned Troseddau Sylweddol Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt a Swydd Hertford: “Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod hynod o anodd i deulu’r dioddefwyr a byddwn yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu wrth iddyn nhw ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd."

Ychwanegodd bod yr ymchwiliad "yn symud yn gyflym" ac nad oedd yr heddlu eto wedi adnabod y dioddefwyr yn ffurfiol.

“Yn dilyn ymholiadau helaeth, mae’r sawl sydd dan amheuaeth wedi’i leoli a does neb arall yn cael ei gysylltu â’r ymchwiliad ar hyn o bryd,” meddai.

'Cefnogaeth'

Mae’r BBC wedi disgrifio marwolaethau aelodau teulu John Hunt fel rhai “hollol ddinistriol”.

Fel rhan o nodyn gafodd ei anfon at staff BBC 5 Live ddydd Mercher, dywedodd y darlledwr y byddai’n rhoi “pob cefnogaeth y gallwn” i Mr Hunt yn dilyn llofruddiaethau Carol Hunt a’i dwy ferch. 

Roedd y gwasanaethau brys, gan gynnwys heddlu arfog, i’w gweld yn ardal mynwent yn ardal Hilly Fields yn Enfield ddydd Mercher.

Bu heddlu arfog hefyd yn chwilio cartref yn Rendlesham Road, Enfield, fore Mercher.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.