‘Gwarthus’: Rhieni yn galw am ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli
Mae rhieni wedi cynnal protest wrth alw am ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli.
Dywedodd y protestwyr fod penderfyniad y cyngor i beidio ag adeiladu ysgol newydd yn y dref yn “ofnadwy”.
Fe wnaethon nhw gyflwyno deiseb mewn cyfarfod o Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Roedd cynllun ar waith i adeiladu ysgol newydd ar gyfer plant Ysgol Heol Goffa ond dywedodd y cyngor sir sy’n gyfuniad o gynghorwyr Plaid Cymru a rhai annibynnol nad oedd yn bosib oherwydd y gost.
Mae’r ddeiseb gan rieni a chefnogwyr yn dadlau fod yr ysgol bresennol yn rhy llawn ac nad oedd bellach yn addas.
“Mae’n warthus eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad yma wrth wella adeiladau ac adnoddau ysgolion eraill yn y sir,” medda'r ddeiseb.
Dywedodd y prif ddeisebydd Amy Evans fod y ddeiseb yn annog y cyngor i fwrw ymlaen ag ysgol newydd ar hen safle gwaith copr Draka, ger Ysgol Pen Rhos.
Cafodd y ddeiseb ei harwyddo gan 5,300 o bobl.
Dywedodd Ms Evans fod Ysgol Heol Goffa wedi bod yn achubiaeth i'w mab
“Mae’n teimlo’n ddiogel, yn cael ei ddeall a’i dderbyn,” meddai.
Ychwanegodd fod ysgolion arbennig yn “noddfeydd o gefnogaeth a dealltwriaeth” i rieni yn ogystal â dysgwyr.
Dadleuodd Ms Evans y gallai canlyniadau economaidd hirdymor beidio â chynnig cefnogaeth deilwng i’r plant fod yn fwy na gwneud hynny.
Dywedodd prifathrawes Ysgol Heol Goffa, Ceri Hopkins, eu bod nhw’n edrych ymlaen at weithio “ar y cyd gyda’r cyngor lleol”.
“Mae’r staff yn ymroddedig i sicrhau'r addysg, gofal a sgiliau bywyd gorau i’r disgyblion.
“Rydyn ni’n diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth i’n staff a’n disgyblion.”
‘Datrysiad’
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod cabinet dros addysg, y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli.
Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried barn disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgol ymhlith eraill, meddai.
Dywedodd ei fod wedi cyfarfod â phrifathro’r ysgol Ceri Hopkins a’r llywodraethwyr ac y byddai pob parti’n cydweithio i ddod o hyd i ateb.
“Mae aelodau’r cabinet hwn yn gwbl ymroddedig i ddiwallu anghenion dysgwyr,” meddai.
Ychwanegodd y cynghorydd Plaid Cymru fod pob cyngor yn wynebu galw cynyddol am addysg anghenion dysgu ychwanegol mewn cyfnod ariannol “heriol iawn”.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price, y gallai ysgol newydd fod yn un o gynigion yr ymgynghoriad.
Ychwanegodd ei fod yn rhannu rhwystredigaeth rhieni a’i fod wedi edrych ymlaen at weld yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu.
Ond roedd y pwysau ariannol yn “anferthol” a chyllideb ysgolion Sir Gaerfyrddin £2.5 miliwn yn llai eleni, meddai.
“Rydyn ni eisiau dod o hyd i ateb yma – datrysiad sy’n dderbyniol ac yn fforddiadwy," meddai.