Newyddion S4C

Cyfle i drigolion i fynegi barn ar gynllun fferm wynt rhwng Y Bala a Chorwen

10/07/2024
Tyrbinau

Bydd trigolion lleol yn cael y cyfle i fynegi eu barn ar gynllun fferm tyrbinau gwynt newydd ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Ddinbych.

Mae cwmni RWE wedi dechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda’r cyhoedd ar gynlluniau i ddatblygu naw tyrbin gwynt sydd ag uchder hyd at 200 medr, ar safle wedi ei leoli i'r de-orllewin o Gorwen ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Bala.

Byddai Fferm Wyn Gaerwen â’r gallu i gyflenwi trydan sy’n cyfateb i anghenion hyd at 48,000 o gartrefi, yn ôl y datblygwyr, gyda capasiti o hyd at 59 MW.

Os caiff ei gymeradwyo bydd yn cynnwys naw tyrbin, dau ag uchder blaen y llafn o hyd at 200m a saith hyd at 180m. Mae potensial storio batris hefyd yn cael ei archwilio medd y datblygwyr.

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn para am wyth wythnos, yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol a gynhaliwyd yn 2022.

Bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yng Nghynwyd, Llandderfel a Llandrillo, ble fydd cyfle i’r cyhoedd holi aelodau o tîm y prosiect a chynrychiolwyr o Ynni Cymunedol Cymru.

Dywedodd Arfon Edwards, Arweinydd Prosiectau RWE sy’n arwain y datblygiad: “Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn casglu gwybodaeth o arolygon a gwybodaeth arall, ac yn mireinio llawer o wahanol agweddau o’r cynllun, rydyn ni nawr yn barod i rannu ein cynigion gyda’r cyhoedd er mwyn clywed eu barn a’u hawgrymiadau. 

“Ar ôl ein cyfnod ymgynghori blaenorol fe wnaethom nifer o newidiadau sydd wedi ein galluogi i wneud y mwyaf o’r ynni adnewyddadwy a fydd yn cael ei gynhyrchu o’r safle hwn yn ogystal ag osgoi ardaloedd mawn dwfn pwysig.”

Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam ddiweddaraf yn y prosiect a ddechreuodd yn 2020. 

Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a disgwylir penderfyniad terfynol gan weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2025. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.