Newyddion S4C

Dau blentyn o ysgol lle'r oedd achosion o fyg stumog heintus wedi marw

10/07/2024
Ysgol Millstead, Everton

Mae dau blentyn o ysgol gynradd yn Lerpwl lle'r oedd achosion o fyg stumog heintus wedi marw.

Roedd y plant pump a chwech oed yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Millstead yn Everton, Glannau Mersi.

Fis diwethaf roedd yn rhaid i'r ysgol gau ei drysau oherwydd ymlediad yr haint Giardia.

Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nad yw achosion marwolaethau’r plant wedi’u cadarnhau ond eu bod yn “annhebygol o fod oherwydd Giardia”.

Haint yn y system dreulio yw giardiasis sy'n cael ei achosi gan barasitiaid bach iawn o'r enw giardia lamblia

Mae'r haint yn gallu achosi poen bol a dolur rhydd, ond yn cael ei wella fel arfer gyda gwrthfiotigau.

'Cymuned wedi ei hysgwyd'

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Millstead, Michelle Beard, fod cymuned yr ysgol “wedi ei hysgwyd”.

“Mae cymuned gyfan Ysgol Millstead wedi’i hysgwyd o glywed am farwolaeth ddiweddar dau o’n plant iau,” meddai. 

“Roedd y ddau blentyn wedi llenwi eu dosbarthiadau â llawenydd yn ystod eu hamser gyda ni, a byddant yn ein calonnau am byth. 

"Rydym yn gweithio’n agos gyda’n teuluoedd, staff a disgyblion i’w cefnogi wrth i ni ddod i delerau â’r newyddion ofnadwy o drist hwn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU: “Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn ymwybodol o farwolaethau trist dau o blant oedd yn mynychu Ysgol Gynradd Millstead, ac mae ein meddyliau gyda’r teulu, ffrindiau a chymuned yr ysgol. 

"Mae'r marwolaethau'n annhebygol o fod oherwydd Giardia.

“Mae Giardia fel arfer yn achosi salwch gastroberfeddol hunangyfyngol sy’n gallu lledaenu’n hawdd ar aelwydydd ac mewn ysgolion.”

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.