Newyddion S4C

Senedd grog yn dilyn etholiadau Ffrainc

09/07/2024

Senedd grog yn dilyn etholiadau Ffrainc

Harmoni a chyd-chwarae ar strydoedd Paris heddi ond wedi noson o ganlyniadau etholiadol annisgwyl mae 'na dyndra dan y wyneb.

I'r Arlywydd Macron na'th alw'r etholiad wedi i'r blaid asgell dde eithafol Rassemblement National ddod i'r brig yn etholiadau Ewropeaidd yn ddiweddar mae 'na benderfyniadau anodd i'w gwneud.

Na'th o deithio i Balas Elysee heddi a chynnig ymddiswyddo ond torri confensiwn a'i berswadio i barhau na'th yr Arlywydd.

"Be 'dan ni'n gweld ar hyn o bryd ydy bod yr asgell chwith a'r dde yn Ffrainc yn hollol wahanol a Macron yn y canol.

"Dw i'n meddwl fyddwn ni falle'n gweld Macron a'r chwith yn dod at ei gilydd i lywodraethu.

"Sut fyddan nhw'n llywodraethu? Mae'n gwestiwn hollol wahanol."

Dyma'r sefyllfa yn y cynulliad hwnnw erbyn heddi.

Er bod siarad mawr mai'r blaid asgell dde eithafol fyddai'n ennill yr etholiad yma yn y 3ydd safle ddaethon nhw.

143 sedd iddyn nhw.

Grwp Ensemble yr Arlywydd Macron yn y tir canol ddaeth yn ail gyda 168 sedd.

Cipio 182 sedd na'th Nouveau Front Populaire ddaeth yn annisgwyl i'r brig.

Senedd grog sydd yma felly a thensiynau a gwahaniaethau mawr rhwng y pleidiau sydd wedi'u hethol.

Mae 'na holltau mawr mewn cymdeithas a Ffrainc yn wlad ranedig.

Mae Rassemblement National yn blaid adain dde eithafol wedi dweud bod cydweithio rhwng y canol a'r chwith i gadw nhw mas o bŵer yn annheg ac annemocrataidd.

"Mae'r wlad yn hollol ranedig.

"Mae'n atgoffa fi rhywfaint o'r sefyllfa yn yr Unol Daleithiau.

"Mae 'na raniadau diwylliannol hefyd.

"Mae'r wlad yn gwbl ranedig ar hyn o bryd ac mae'n anodd gweld sut mae uno'r ddwy garfan."

Wrth i'r darlun gwleidyddol ddod yn gliriach heddi mae 'na waith mawr i'w wneud i uno gwlad lle mae nifer yn gweld pethe yn ddu neu yn wyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.