Marwolaethau Covid-19 Rwsia ar eu huchaf am y pumed diwrnod yn olynol

Mae Rwsia wedi cofnodi eu nifer dyddiol uchaf o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 am y pumed diwrnod yn olynol.
Cafodd 697 o farwolaethau eu cadarnhau yn y wlad ddydd Sadwrn.
Cafodd 24,439 o achosion newydd o'r feirws hefyd eu cadarnhau yno - y nifer dyddiol uchaf yn Rwsia ers mis Ionawr.
Mae swyddogion yn beio'r cynnydd ar yr amrywiolyn Delta, meddai gwasanaeth newyddion Aljazeera.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Andrey Petrov