Dau'n pledio'n euog wedi i ffatri ganabis gael ei darganfod mewn hen ysgol yn Llandysul
Mae dau ddyn wedi pledio'n euog i gyhuddiadau cyffuriau wedi i blanhigion canabis gwerth £2m gael eu darganfod ar safle hen ysgol yn Llandysul.
Fe stopiodd swyddogion Dyfed-Powys Police oedd yn teithio drwy Gaerfyrddin ar ddydd Gwener 4 Gorffennaf a darganfod pum cês yn llawn canabis.
Cafodd y ddau, oedd wedi teithio o Lundain i Geredigion, eu harestio.
Yn dilyn ymchwiliadau pellach fe gafodd gwarant ei ddefnyddio i archwilio adeilad hen ysgol yn Llandysul, lle cafwyd hyd i 1,500 o blanhigion canabis ar ddau lawr o'r adeilad.
Mae'r heddlu'n credu bod y cyffuriau werth hyd at £1,960,000.
Cafodd Alfred Perkola, 43 oed, o Ealing yn Llundain, a Adli Gjegjaj, 25 oed o Salford, eu cyhuddo o fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u dosbarthu.
Plediodd y ddau yn euog mewn gwrandawiad llys ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rich Lewis: “Roedd hwn yn ymgyrch lwyddiannus iawn, a welodd gydweithio rhagorol nid yn unig rhwng nifer o adrannau o fewn Heddlu Dyfed-Powys, ond hefyd gyda heddluoedd eraill.
“Rydym wedi ymrwymo i wneud ardal ein heddlu yn elyniaethus i’r rhai sy’n delio mewn cyffuriau anghyfreithlon, ac mae ein gwaith dros y penwythnos wedi gweld swm sylweddol o ganabis yn cael ei dynnu allan o’r gadwyn gyflenwi.
“Arweiniodd cryfder y dystiolaeth yn erbyn y rhai a ddrwgdybir at bledio’n euog yn gynnar, ac rydym nawr yn aros am eu dedfryd.”