Newyddion S4C

Cau ffordd am fwy na thri mis wedi difrod tân gwair

ITV Cymru 09/07/2024
Rhigos

Bydd ffordd yn y cymoedd ar gau am dros dri mis er mwyn ail osod gwifren a gafodd ei dinistrio yn ystod tân gwair.

Bydd Ffordd Mynydd y Rhigos ar yr A4061, sy’n cysylltu pobl sy’n byw yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon, yn cau o 22 Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Hydref ar gyfer gwaith atgyweirio. 

Ym mis Awst 2022, fe wnaeth tân gwair achosi difrod sylweddol ar ymyl y ffordd a'r creigiau gerllaw. 

Mae pobl wedi cael eu rhybuddio i gadw draw o'r ardal, ac mae contractwyr arbenigol wedi cael eu galw i ymdrin â'r gwaith.

Dywedodd y cyngor ar y pryd fod y llwybr yn “hynod o beryglus” gyda chreigiau’n disgyn ar y ffordd. 

Ers hynny, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi cynllun atgyweirio mawr i fynd i’r afael â’r difrod. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud ym mhen deheuol Ffordd Mynydd y Rhigos ar yr A4061. 

Dywedodd y cyngor y bydd y llwybr o dan Ffordd Mynydd y Rhigos ar yr A4061 yn "aros ar agor i gerddwyr profiadol, ond nid yw'r llwybr hwn yn addas ar gyfer seiclwyr." 

'Sicrhau diogelwch' 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Er bydd y cynllun hwn yn tarfu ar bethau, mae'r gwaith sydd wedi’i gynllunio yn ceisio lleihau hyn a lleihau’r risg o gau’n achlysurol ac am dymor hir. 

“Mae angen y gwaith peirianyddol cymhleth hwn er mwyn sicrhau diogelwch y llwybr pwysig yma, ymateb i’r difrod gafodd ei achosi gan danau gwair yn 2022, ac yn bwysig iawn, ceisio diogelu strwythur ehangach y llwybr mynydd hwn at y dyfodol. 

“Nid oes modd gwneud y gwaith yn gyfan gwbl nac yn rhannol yn ystod y nos, oherwydd natur gymhleth y gwaith adfer ar lethr y graig.  

“Mae oriau golau dydd yn hanfodol er mwyn darparu amodau diogel i'r gweithlu weithio peiriannau trwm ac ymgymryd â mynediad rhaffau i wyneb y graig fawr.” 

Er bod disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref, dywedodd y cyngor y bydd yr hysbysiad cau’r ffordd yn parhau yn swyddogol hyd nes fis Rhagfyr, rhag ofn y bydd unrhyw oedi yn y cynlluniau.


Llun: Cyngor Rhondda Cynon Taf 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.