Newyddion S4C

Dwyieithrwydd yn ennill yn Lloegr

09/07/2024
Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion

Mae buddugoliaeth Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus iaith Saesneg wedi dangos pa mor "ddefnyddiol yw bod yn ddwyieithog,” meddai un aelod.

Fe ddaeth y tîm dadl hŷn yn fuddugol yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc yn Stafford ddydd Sul.

Roedd sawl buddugoliaeth arall hefyd i CFFI Ceredigion, gan gynnwys i’r tîm darllen a ddaeth i’r brig â’r tîm iau ddaeth yn ail. Cadeirydd y tîm hŷn, Caryl Jones, oedd enillydd y Cadeirydd Gorau yn ogystal.

Siaradwyr iaith gyntaf Cymraeg oedd pob un aelod ddaeth i'r brig.

“Mae’n deimlad bach neis bod tîm o Gymru – a ‘na be’ fi’n credu be’ sy’n bwysig – yw bod tîm o bump sydd yn siaradwyr Cymraeg iaith gynta’ wedi cystadlu yn siarad cyhoeddus iaith Saesneg ag ennill,” meddai Dewi Davies. Roedd Dewi, sy'n 24 oed, yn rhan o'r  tîm dadl hŷn fuddugol.

“Mae’n gydnabyddiaeth fach neis o’r holl waith sydd wedi mynd mewn. 

“A ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu,” meddai. 

Roedd Megan Jones, Meleri Morgan ac Eiry Williams hefyd yn rhan o’r tîm dadl hŷn gyda Dewi Davies a Caryl Jones.

'Browd'

Fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar lefel genedlaethol Cymru a Lloegr. Roedd Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn un o ddau dîm oedd yn cynrychioli Cymru. 

Fel rhan o’r her, mae disgwyl i dimau baratoi dadl ar y pwnc sydd wedi’i ddewis ar eu rhan, gan wneud gwaith ymchwil trylwyr cyn y diwrnod mawr. 

“Y sgil ar y dydd yw i allu neud dadl ag ymateb ond mae wastad eisiau ffeithiau, pynciau, a thamaid o strwythur ynglŷn â be’ ‘dyn ni’n mynd i ‘weud,” meddai Dewi Davies.

Ac yn dilyn eu buddugoliaeth, dywedodd Mr Davies: “’Dyn ni wedi ennill dros Gymru a Lloegr – alla’i ddim gofyn am ddim tamaid yn well.” 

Dywedodd fod ennill yn “foment digon browd” a bod ef a’r ffermwyr ifanc bellach yn edrych ymlaen at ddathlu yn Y Sioe Frenhinol yn ddiweddarach yn y mis. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.