Y cyn ysgrifennydd Tramor yr Arglwydd Cameron yn ymddiswyddo
Wrth i Rishi Sunak barhau yn arweinydd y Ceidwadwyr am y tro, hyd nes caiff ei olynydd ei ethol, mae'r cyn Ysgrifennydd Tramor, yr Arglwydd Cameron wedi ymddiswyddo, yn ogystal â chadeirydd y blaid, Richard Holden.
Richard Fuller, y cyn ysgrifennydd economaidd i'r Trysorlys sydd wedi ei ethol yn gadeirydd y Blaid Geidwadol am y tro.
Cyhoeddodd y blaid mai Jeremy Hunt fydd y canghellor cysgodol, gyda James Cleverly yn gyfrifol am faterion cartref.
Yr Arglwydd Davies o’r Gŵyr fydd llefarydd y blaid ar Gymru.
"Fel Cymro balch, rwy’n edrych ymlaen i ddwyn y llywodraeth i gyfrif," meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Fuller: “Cafodd y Blaid Geidwadol etholiad anodd ac mae'n bwysig ein bod yn dod at ein gilydd eto ac yn bwrw golwg ar y canlyniadau hynny.
“Mae'n fraint bod yn gadeirydd y Blaid Geidwadol dros dro gan weithio gyda chyd-weithwr yng nghabinet yr wrthblaid.
“Yn blaid unedig, byddwn yn barod i ddwyn y lywodraeth Lafur newydd hon i gyfrif, bob cam o'r ffordd."