Newyddion S4C

Aelodau Seneddol newydd yn beirniadu gwasanaethau trên wrth geisio cyrraedd Llundain

08/07/2024
tren avanti

Mae aelodau seneddol Llafur newydd, rhai o Gymru yn eu plith, wedi beirniadu gwasanaethau trên yn hallt, wrth iddyn nhw wynebu oedi ar eu teithiau i Lundain.  

Roedd Paul Foster, Aelod Seneddol De Ribble hefyd yn flin ar ôl iddo gyrraedd gorsaf Preston a darganfod fod y trên am 6 fore Llun i orsaf Euston yn Llundain wedi ei ganslo.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd Louise Haigh, y byddai Llafur yn ystyried tynnu cytundeb cwmni Avanti West Coast oddi arnyn nhw, pe bai'n ennill yr Etholiad Cyffredinol. 

Dywedodd fod gwasanaeth y cwmni trenau yn "druenus." 

Mae hi hefyd wedi addo y bydd holl wasanaethau trên y Deyrnas Unedig yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus.  

Teithiodd Henry Tufnell, Aelod Seneddol Llafur newydd Canol a De Sir Benfro i Lundain ddydd Sul. Dywedodd ar ei gyfrif cymdeithasol: "Teithio i Lundain ac yn edrych ymlaen i ddechrau fy ngwaith fel AS Canol a De Sir Benfro. 

"Yn anffodus, does dim trenau uniongyrchol o Sir Benfro, ac mae oedi ar y trên @GWRHelp trwy Gaerloyw. Llawer o waith i'w gyflawni..."  

Mae cwmni Avanti West Coast wedi dweud yn flaenorol fod ganddyn nhw gynlluniau i ddarparu gwelliannau hir dymor i'w cwsmeriaid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.